Cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi i fusnesau Llandysul

Dathlu Cymreictod

Cered Menter Iaith Ceredigion
gan Cered Menter Iaith Ceredigion

Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion yn cynnal cystadleuaeth addurno ffenestri ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yn Llandysul am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bydd tarian i’r siop a fydd wedi addurno ei ffenest / eu ffenestri orau i ddathlu Dydd Gwyl Dewi.

Bydd y ffenestri yn cael eu beirniadu ar:

  • eu gwreiddioldeb
  • eu hadlewyrchiad o ysbryd yr wyl ac o ysbryd Cymreictod.

Caiff y ffenestri eu beirniadu gan staff Cered ar y 1af o Fawrth.

Cyflwynir tarian i’r enillydd i’w chadw am flwyddyn, a hamper o nwyddau Cymreig.

I gystadlu, postiwch lun o’ch ffenestri ar gyfryngau cymdeithasol eich busnes gan dagio Cered neu e-bostiwch lun o’ch ffenest i:

cered@ceredigion.gov.uk.

Am gyngor sut i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eich busnes cysylltwch â Cered!