Dowlais v Clwb Hoci Llandysul

Ail-ddechreuodd y tymor hoci i Landysul gyda gêm oddi cartref erbyn Dowlais a y 4ydd o Chwefror.

Kelly Davies
gan Kelly Davies

Dechreuodd Llandysul yn gryf gyda’r chwaraewyr ifanc Jano Evans a Sara Evans yn gwneud argraff o’r cychwyn. Wedi gwaith da yng nghanol cae gan Laurie Hughes fe lwyddodd Michelle Davies i ergydio yn y cylch gyda’r bêl yn canfod ei ffordd trwyddo i Ffion Davies wrth y postyn chwith i’w sgubo i’r rhwyd. 0-1 i Landysul.

Cadwodd Llandysul i bwyso gyda Laurie Hughes, Emma Jac Davies, Crisial Llywelyn a’r capten Ffion Davies yn gwneud gwaith da yng nghanol cae. Llwyddwyd i gael y bêl allan i Michelle Davies ar yr asgell dde ac fe aeth croesiad cryf mewn i’r cylch gyda Jano Evans yn ymosod y bêl a gydag un cyffyrddiad o’r bêl yn gwyro’r bêl tuag at y gôl i sgorio gôl wych. Symudiad da iawn gan Landysul wedi ei orffen yn arbennig gan Jano Evans.

Gwnaeth y chwaraewr ifanc Mali Evans waith da iawn gan ennill profiad arbennig wrth chwarae gyda’r tîm cyntaf.

Roedd Dowlais yn cadw i weithio’n galed a roeddynt yn edrych yn beryglus wrth dorri fe llwyddodd amddiffyn profiadol Llandysul o Kelly Davies, Elen Williams, Gwyneth Ayers a’r gôl-geidwad Lleucu Ifans i’w cadw allan am weddill yr hanner gyntaf. 0-2 ar hanner amser.

Daeth Dowlais mewn i’r ail hanner yn gryf gan roi Llandysul dan fwy o bwysau. Dyfarnwyd cyfres o gorneli cosb i Ddowlais ond llwyddodd Llandysul i’w cadw allan gyda Kelly Davies yn gwneud gwaith arbennig.

Er y pwysau roedd Llandysul yn parhau i gael cyfleoedd da ac wedi gwaith da eto gan Laurie Hughes i ganfod Michelle Davies ar y dde, daeth pas mewn i’r cylch ganfod Jano Evans a ergydiodd am gôl ac wedi gwaith da cychwynnol gan yr amddiffyn i arbed fe cadwodd Sara Evans y pwysau arno yn cylch a torodd y bêl yn rhydd iddi, ymatebodd yn gyflym a chymryd ei chyfle gan sgorio gôl dda.

Cadwodd Dowlais i fynd ac wedi cyfnod arall o bwyso fe lwyddon nhw i weithio ei ffordd lawr yr asgell dde a chael croesiad dda mewn i’r cylch gyda’r ymosodwr yn cael ergyd dda tuag at gôl a sgorio gôl dda.

Cododd Llandysul ei gêm eto ac wedi gwaith da gan Ffion Davies llwyddwyd i ganfod Jano Evans yn y cylch i ergydio a sgorio gôl dda arall mewn oddi ar y postyn chwith.

Gorffenodd y gêm yn 1-4 i Landysul, gêm galed wedi saib hir dros y Nadolig ond grêt i ddechrau nôl gyda buddugoliaeth. Enwyd Laurie Hughes yn chwaraewr y gêm.

Bydd Llandysul yn chwarae nesaf gartref erbyn Kington ar ddydd Sadwrn, 11 Chwefror. Noddir y gem gan, Eagle Inn, Llanfihangel-ar-arth.