Gêm gyfartal yn erbyn Eglwys Newydd

Menywod Emlyn yn drydydd yn y gynghrair ar hyn o bryd

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Teithiodd tîm hoci Castell Newydd Emlyn i Gaerdydd unwaith eto i chwarae yn erbyn trydydd tîm Eglwys Newydd. Ar ôl ennill y gêm gartref cyn y Nadolig, roedd y menywod yn gobeithio cael yr un canlyniad unwaith yn rhagor.

Dechreuodd y menywod yn gryf gyda meddiant hafal rhwng y ddau dîm. Roedd y tîm cartref yn herio’r llinell ganol a oedd yn cynnwys Mel Williams, Efa Jones, Heledd-Mai Lloyd a Lois Davies, ond yn llwyddiannus wrth gael y bel allan i’r ymosodwyr.

Chwaraeodd Sioned Fflur yn gryf ar yr asgell dde gan guro’r amddiffynnwr ar sawl adeg a chyrraedd gyrion y cylch ymosodol, a dyma’r un don ar yr asgell chwith o chwarae Sara Patterson. Ar ôl ennill y meddiant yn y cylch ymosodol, cafodd cornel gosb ei roi.

Ellie Lloyd wnaeth danio’r bel i frig y cylch at Williams er mwyn ei daro, ond roedd y gôl-geidwad yn gyflym i ymateb. Safwyd Lloyd yn y lle cywir ar gyfer yr adlam, a wnaeth lwyddo i roi’r bel yng nghefn y rhwyd, 1-0 i Emlyn.

Yn dilyn derbyn sawl cornel gosb, o ddiolch i amddiffynwyr Emlyn – Sioned Davies, Lloyd a Caryl-Haf Lloyd gyda’r gôl-geidwad Elin Williams, llwyddwyd i atal pêl Eglwys Newydd rhag cyrraedd y gol.

Yn dilyn gweld newid i ffurfiad Eglwys Newydd ar ôl hanner amser, cymerwyd amser i fenywod Emlyn i addasu eu gem. Yn anlwcus yn ystod yr adeg yma, llwyddwyd Eglwys Newydd i sgorio gôl i ddod a’r sgôr i un-yr-un.

Er, nid oedd hyn yn atal ymosodwyr Emlyn rhag herio’r amddiffynwyr ac o ganlyniad i rediad Sioned Fflur a phas i’w mam-Davies, cymerwyd saethiad am y gol. Yn dilyn gwyriad o un o ffyn yr amddiffynnwr, teithiwyd y bel yn syth i ffon Patterson i’w daro yn y gôl. Emlyn nôl yn y blaen.

Roedd y menywod yn gwybod fod ganddynt her o’u blaenau er mwyn cynnal y sgôr yma, ond nid oedd hyn yn ddigon yn erbyn blaenwyr penderfynol y gwrthwynebwyr a lwyddwyd i ddod a’r sgôr yn gyfartal unwaith eto, 2-2.

Gyda phymtheg munud ar ôl, cafodd Patterson ei hanfon o’r cae yn dilyn derbyn carden werdd, a golygodd gadael y tîm gyda 10 chwaraewr am ddwy funud. Mae’n rhaid rhoi clod i’r chwaraewyr o’r tîm ieuenctid Izzy Stedman a Flo Plant yn ystod yr adeg yma gan fod y ddwy wedi chwarae’n wych gyda’i gilydd ac ymosod yn gryf gyda’r blaenwyr.

Yn dilyn gêm gystadleuol tu hwnt, roedd y ddau dîm yn derbyn pwynt yr un am gêm gyfartal, sy’n rhoi Emlyn yn drydydd y gynghrair tu ôl i Aberdaugleddau a Phen-y-bont. Enfys Davies wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm, ond rhaid nodi fod gwaith Stedman, Plant a Lois Davies ar y cae yn arbennig hefyd.

Bydd y menywod yn teithio i Benarth dydd Sadwrn ar gyfer eu trydedd gêm o’r tymor.