Emlyn Dan 13 yn Llygadu’r Cwpan

Tîm Rygbi Castell Newydd Emlyn Dan 13 wedi cyrraedd y rownd derfynol Cwpan Sir Gâr

Matt Adams
gan Matt Adams

Mae tîm rygbi Dan 13 Castell Newydd Emlyn wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Gâr am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl buddugoliaethau campus yn erbyn enillwyr y cwpan yn 2022, Cwins Caerfyrddin ac yna yn erbyn Ffwrnes yn y rownd gynderfynol.

Chwaraeodd bechgyn Emlyn yn erbyn y Cwins yn y ffeinal yn 2022 ond colli oedd eu hanes nhw gyda chais hwyr mewn gêm hynod o agos a chyffrous yn Llandeilo.

Felly oedd hi’n gyfle i dalu’r pwyth yn ôl pan dynnwyd enw’r Cwins mas o’r het yn y rownd gyntaf eleni ac roedd carfan Emlyn yn ysu eisiau chwarae ar eu gorau er mwyn ennill.

Ond bu rhaid aros gan ohiriwyd y gêm dwywaith – y tro cyntaf achos torrodd car y dyfarnwr lawr ar y ffordd i’r gêm ac yr ail dro oherwydd tywydd garw.  Chwaraewyd y gêm ar ei thrydydd cynnig ym mis Ionawr.

Unwaith eto roedd hi’n gêm dda gyda rygbi safon uchel o’r ddau dîm.

Diolch i geisiau gan ganolwr, Gwion Davies, asgellwr, Liam Bowen-Harries, bachwr, Elis Evans yn ogystal â chic cosb gan faswr, Gwilym Williams, fe enillodd Emlyn 18-14 lawr ar Barc Caerfyrddin.

Yn aros amdanyn nhw yn y rownd gynderfynol roedd Clwb Rygbi Ffwrnes o Lanelli gyda’i phac mawr a grymus yn teithio i Ddôl Wiber ar ddiwrnod braf sych.  Mi oedd tîm Ffwrnes yn edrych yn ddigon trefnus a hyderus gyda nifer o chwaraewyr talentog yn eu plith.

Ond nid oedd carfan Emlyn am ildio ar eu tomen eu hunain ac yn y diwedd mi oedd yn fuddugoliaeth swmpus i’r Emlyn yn sgorio wyth cais a Ffwrnes yn llorio un cais mewn ymateb.

Olwyr cryf yr Emlyn sgoriodd pob cais gyda chanolwr, Bobby Thomas yn croesi’r gwyngalch tair gwaith, Abel Rees yn ychwanegu tri chais o’i safle cefnwr a Liam Bowen-Harries yn sgorio dwywaith o’r asgell.  Llwydodd maswr, Gwilym Williams ychwanegu pum drosgais hefyd.

Mae gêm galed yn disgwyl amdanyn nhw yn y rownd derfynol yn erbyn Llanymddyfri.

Dydy Emlyn ddim wedi chwarae yn erbyn y Porthmyn ers cyn Covid felly bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r ddau dîm wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae cefnogwyr brwd Emlyn yn edrych ymlaen at berfformiad cadarnhaol arall.

Canlyniadau

Rownd Gyntaf (Ionawr)

Cwins Caerfyrddin dan 13 14 – 18 Castell Newydd Emlyn dan 13

Emlyn: Gwion Davies (5), Liam Bowen-Harries (5), Elis Evans (5), Gwilym Williams (3)

Rownd Gynderfynol (Chwefror

Castell Newydd Emlyn Dan 13 50 – 5 Ffwrnes Dan 13

Emlyn: Bobby Thomas (15), Abel Rees (15), Liam Bowen-Harries (10), Gwilym Williams (10)

Rownd Derfynol (30ain Ebrill) i’w chwarae yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig

Castell Newydd Emlyn Dan 13 v Llanymddyfri Dan 13

1 sylw

Matt Adams
Matt Adams

Credit lluniau – Jennifer Suzanne Bowen, Matt Adams, Karina

Mae’r sylwadau wedi cau.