Llwyddiant llenyddol disgyblion Ysgol Bro Teifi

Tair yn llwyddo yn Eisteddfod Crymych

gan Alwen Thomas

Yn ystod y penwythnos daeth tair o ferched Ysgol Bro Teifi i’r brig mewn cystadlaethau llenyddol yn Eisteddfod Crymych.

Barddoniaeth Blwyddyn 7:

3ydd – Esyllt Jones

Barddoniaeth Blwyddyn 8:

3ydd – Alaw Tomos

Rhyddiaith Blwyddyn 8

1af – Sioned Elias-Davies

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw a dymuniadau gorau gyda’r cyfansoddi yn y dyfodol.