Buddugoliaeth i Landysul

Ar Ddydd Sadwrn y 4ydd o Chwefror croesawyd Clwb Hoci Kington i Fro Teifi.

Kelly Davies
gan Kelly Davies
Ellie-Evans

Ellie Evans

Llandysul-v-Kington

Dechreuodd Kington yn gryf gan roi amddiffyn Llandysul dan bwysau ac ildiwyd cyfres o gorneli cosb. Dim ond gwaith da gan Alaw Roberts a wnaeth glirio’r bêl oddi ar y llinell wnaeth atal Kington rhag mynd ar y blaen. Gwnaeth hyn sbarduno Llandysul a rhoiodd chwaraewr y gêm Sara Evans amddiffyn Kington tan bwysau ar bob cyfle ac arweiniodd hyn at y gôl gynta’, wrth i Emma Davies neud rhediad da mewn i’r cylch a rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd. Llwyddodd Michelle Davies wneud y sgôr yn 2 v 0 cyn hanner amser.

Roedd Kington yn parhau i frwydro ac yn gwneud i ganol cae Llandysul weithio’n galed i adennill y bêl, gyda Crisial Llywelyn ac Elen Williams yn gwneud gwaith da lawr yr ochr dde ac yn creu cyfleoedd. Daeth 6 gôl i Landysul yn yr ail hanner, Michelle Davies x 2, Tracey Davies x 1, Ellie Evans x 1, Laurie Hughes x 1 a Ffion Davies x 1. Sgôr terfynol Llandysul 8 v 0 Kington.

Diolch i’r Eagle Inn, Llanfihangel-ar-arth am noddi’r gêm ac i Westy’r Porth, Llandysul am y bwyd ar ôl y gêm. Mi fyddwn yn croesawu Clwb Hoci Prestigne i Landysul ar ddydd Sadwrn 11 Chwefror am 11:00am, dewch i gefnogi.