James Jones Son and Francis yn ennill Cystadleuaeth Addurno Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi

Llandysul yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Cered Menter Iaith Ceredigion

Bu busnesau Llanydsul yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri wedi ei threfnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Dyma’r ail dro i’r gystadleuaeth yma gael ei chynnal gan Cered a’r prif nod oedd i greu ychydig o fwrlwm adeg Gŵyl Dewi gan ddod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i ganol trefi Ceredigion.

Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r trefi yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.

Dywedodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni eto ac anodd iawn oedd y dasg o ddewis enillwyr. Mae’n amlwg fod busnesau Ceredigion yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac wedi dehongli’r Gŵyl Dewi mewn ffyrdd creadigol ac amrywiol iawn.”

Cafodd y ffenestri eu beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod. Y buddugwyr yn Llandysul eleni oedd James Jones Son and Francis – Llongyfarchiadau mawr iddynt.