Calon Tysul yn chwilio am staff newydd

Mae’r ganolfan yn chwilio am bobl (16 oed +) i ymuno â’r tîm.

Matt Adams
gan Matt Adams

Mae gweithio yng Nghalon Tysul yn lle delfrydol i ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant hamdden / chwaraeon neu os ydych chi’n chwilio am swydd hyblyg, rhan amser. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â sgiliau personol megis bod yn ddibynadwy, hyblyg, gallu gweithio’n annibynnol ac yn dda wrth ymwneud â phobl eraill yn enwedig plant.

Mae angen staff ar gyfer y swyddi achlysurol canlynol:

  • Cynorthwyydd y Ganolfan
  • Athro Nofio
  • Cynorthwyydd Gwersi Nofio

Os nad yw’r cymhwyster angenrheidiol gyda chi eisoes, gallwch chi ymgeisio o hyd a gallwn ni ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Beth sydd angen arnaf i ymgeisio?

  • 16 oed +
  • Y gallu i siarad a deall Cymraeg*
  • Yn fodlon cwblhau cyrsiau hyfforddiant ar gyfer y swydd
  • Diddordeb mewn chwaraeon / hamdden / nofio
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm
  • Gallu gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau
  • Sgiliau personol pwysig: dibynadwy, hyblyg, gallu gweithio’n annibynnol, sgiliau da o ran ymwneud â phobl eraill

*Os nad ydych yn rhugl / hyderus yn y Gymraeg eto, mae’n bosib bydd Calon Tysul yn gallu eich helpu cyrraedd y safon ddisgwyliedig gyda hyfforddiant pwrpasol.

Be’ nesa’?

Os wyt ti am drafod y swyddi, cysyllta gyda ni i drafod – Matt Adams (matt@calontysul.cymru / 01559-362548)

Ymgeisiwch ar-lein fan hyn