Her Theatr Unnos

R’ych chi ’di clywed am Dŷ Unnos, ond beth am Theatr Unnos?

Naomi Nicholas-Jones
gan Naomi Nicholas-Jones
Theatr-Unnos

Tasech chi wedi dweud wrtha i fore Gwener y byddwn i’n treulio’r noson honno dan glo mewn theatr, yng nghwmni Eddie Ladd, Mari Mathias a Carwyn Blayney, fyddwn i wedi chwerthin. Ond pan ddaeth y cyfle i gymryd rhan yn ‘Her Unnos’ Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, law yn llaw â Theatr Felinfach, a hynny ar fyr rybudd gallwn i ddim â gwrthod.

Wedi i ni dderbyn y sbardun sef ‘pontydd’ aethom ati wedi’n harfogi â pheniau ffelt a phapur i daflu syniadau. Roedd yr egni’n heintus, a’r syniadau’n tasgu! Heb air o gelwydd ni chawsom eiliad o letchwithdod nac un gair croes yn ystod y 12 awr. Y cyfan a fuodd rhyngom oedd trafodaethau agored, chwarae ac arbrofi. Mae’n rhyfeddol sut y gall syniadau dyfu pan ddaw criw o bobl ynghyd, syniadau y byddwn i wedi bod yn gori arnynt am fisoedd ar fy mhen fy hun.

Heblaw am ryw awr a hanner o gwsg, bu’r pedwar ohonom yn gweithio’n ddi-dor drwy’r nos. Un o uchafbwyntiau’r profiad oedd croesawu’r wawr drwy wrando ar gorws o adar y tu allan i’r theatr. Llwyddom i ddefnyddio clip sain yr adar fel rhan o’r perfformiad, ac roedd hynny’n hudolus.

Am beth oedd y perfformiad yn y pen draw? Wel, archwiliom ein perthynas hunanol â phontydd, ein dibyniaeth gymhleth ar dwristiaeth, ein gallu i losgi ac osgoi llosgi pontydd, cyflymdra bywyd, a’n hatgofion personol o bontydd yn ogystal â throi at bontydd chwedlonol. Dysgais lwyth hefyd, oeddech chi’n gwybod fod gan gitâr bont? A bod gan y gân ‘Good Vibrations’ gan y Beach Boys bont nodedig? Rhyfeddol!

Wrth gamu i’r Theatr y noson honno, rhaid cyfaddef nad oeddwn i’n meddwl y byddai darn mor gyflawn a gorffenedig o theatr o fewn ein gafael mewn cwta 12 awr. Am brofiad ac am ffordd gynhyrchiol (er ychydig yn boncyrs a blinedig) o greu! Diolch i Eddie, Mari a Carwyn am eu cwmni, egni ac ysbrydoliaeth ac i Theatr Felinfach a Theatr Troed-y-Rhiw am y profiad.

O.N. Na, nid oes ysbrydion yn troedio’r llwyfan yng nghanol nos!