Llandysul yn Bencampwyr

Llandysul wedi ennill Uwch Adran 2, Cynghrair De Cymru.

Kelly Davies
gan Kelly Davies

Croesawodd Llandysul 2il dîm Howardians, o ardal Trefforest i Ysgol Bro Teifi am ei gêm nesaf yn Uwch Adran 2, Cynghrair De Cymru, ei gêm cartref olaf am y tymor. Gyda Llandysul yn gwybod mai un pwynt oedd angen arnyn nhw i ennill y gynghrair roedd tipyn yn y fantol ar ddechrau’r gêm a phrofodd i fod yn gêm gyffrous. Diolch yn fawr iawn i Cardigan Arms am noddi’r gêm ac i Westy’r Porth am y bwyd ar ôl y gêm.

Dechreuodd tîm Howardians yn gryf gyda Llandysul yn edrych ychydig yn nerfus. Er hynny, roedd Llandysul yn llwyddo i atal a thorri lawr ymosodiadau Howardians. Amddiffynodd y tîm cartref cyfres o gorneli cosb gan lwyddo i gadw’r Howardians allan wedi gwaith da gan Laurie Hughes, Kelly Davies, Gwyneth Ayers, Elen Williams, Alaw Roberts a’r gôl-geidwad Lleucu Ifans. Fe dyfodd Llandysul mewn i’r gêm gan roi pwysau cynyddol ar Howardians. Daeth cyfleoedd wrth i Landysul wasgu mewn i’r cylch ond llwyddodd y tîm oddi cartref i’w cadw allan tan hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf. Daeth gôl arbennig i chwaraewr y gêm, Laurie Hughes, wedi iddi bigo’r bêl lan yng nghanol cae a driblo mewn i’r cylch a gydag ergyd o ongl tynn o ochr chwaith y cylch fe lwyddodd i ganfod ffordd heibio i’r gôl-geidwad. Gôl wych. Gyda Llandysul nawr yn llawn hyder fe ddaeth ail gôl i’r tîm cartref wedi gwaith da lawr y dde gan Crisial Llywelyn i groesi mewn a chanfod Michelle Davies yn y cylch a sgoriodd hi gôl dda. 2-0 i’r tîm cartref ar hanner amser.

Cadwodd Howardians i frwydro yn yr ail hanner ac fe dalodd eu dycnwch ffordd wrth iddynt sgorio o gornel gosb wrth i’r bêl godi’n uchel ac ymosodwr Howardians yn ei ergydio mewn i’r gôl. Siom i Landysul i ildio ond roedd yr ymateb ganddynt yn gadarn wrth iddynt weithio’n galed i ad-ennill eu mantais. Gweithiodd Emma Jac Davies, Crisial Llywelyn, Laurie Hughes a Ffion Davies yn galed yng nghanol cae gyda Ellie Evans, Michelle Davies, Tracey Davies ac Erin Morgan yn gweithio’n dda wrth ymosod. Talodd y gwaith caled ar ei ganfed a daeth trydydd gôl y gêm i Tracey Davies er mwyn selio’r fuddugoliaeth i Landysul.

Gorffenodd y gêm yn 3-1 i Landysul gan olygu ennill Uwch Adran 2, Cynghrair De Cymru. Tipyn o gamp yn ei blwyddyn cyntaf yn y gynghrair a dyrchafiad i gynghrair hoci uchaf De Cymru! Anodd credu mai ond yn 2016 y dechreuodd Llandysul yn Adran 3 Cynghrair De Cymru a nawr wedi cyrraedd Uwch Adran 1. Clod mawr i’r holl chwaraewyr a diolch mawr i bawb sydd wedi eu cefnogi ar y ffordd.

Mae dau gêm oddi cartref yn weddill am y tymor a bydd Llandysul yn teithio i chwarae yn erbyn Y Rhondda ddydd Sadwrn, 1 Ebrill.