Ffostrasol yn ennill y Cwpan!

Adroddiad gêm derfynol Cwpan Cynghrair Ceredigion

gan Alun Bowen

Mae gêm derfynol Cwpan Cynghrair Ceredigion ar ddydd Llun y Pasg yn uchafbwynt i dimau pêl-droed yr ardal ac eleni gwelwyd CPD Ffostrasol yn herio CPD Crymych ar y Cae Sgwâr yng nghanol Aberaeron. Aeth Ffostrasol mewn i’r gêm yn ffefrynnau ar frig y gynghrair ac yn edrych i adennill y cwpan ar ôl llwyddiant y llynedd ond yn wynebu tîm Crymych cryf sy’n brwydro ar sodlau’r tîm o Barc Troedyrhiw. Crymych ddechreuodd y gorau yn lledu’r bêl yn hyderus o flaen torf ddisgwyliedig ac ar ôl 14 munud peniodd Rhodri George y bêl mewn i’r rhwyd, 1-0. Dihunodd Ffostrasol ar ôl hyn ac ar ôl gwaith da gan Iwan Jones, gorffennodd Mickey Wilcox i unioni’r sgôr ar ôl 17 munud. Gyda’r gwynt yn codi roedd cyfleoedd yn brin am weddill yr hanner ac aeth y ddau dîm i mewn i’r egwyl yn hafal.

Daeth Ffostrasol allan yn gyflym yn yr ail hanner ac ar ôl gwaith da gan yr asgellwr Carwyn Morgan ar y dde, gorffennodd Dafydd Phillips ar y postyn cefn eiliadau mewn i’r hanner. Tyfodd Ffostrasol mewn hyder wrth i’r gêm mynd yn ei blaen ond heb ychwanegu i’r sgôr er gwaethaf ymdrechion Tomos Rogers o gic rydd a Mickey Wilcox yn bwrw’r bar. Roedd Crymych yn bygwth i wrth-ymosod ond daliodd Ffostrasol ei dir gan ennill cwpan y gynghrair am yr ail flwyddyn yn olynol. Seren y gêm i Mickey Wilcox. Cododd capten Ffostrasol Iolo Thomas y cwpan gyda’r dathliadau yn parhau tan oriau mân y bore!