Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith

Cystadlu Brwd

Alaw Grug Evans
gan Alaw Grug Evans
DC9CE9EE-FFBC-47A8-AEBF

Capel Bryngwenith

38EB00F0-5771-4B63-ABA5

Ennillwyr unawd blwyddyn 2 ac iau. Neli 1af, Marged 2il, a Non yn 3ydd.

B2A170BA-B542-408C-AE06

Parti Carreg y Creuddyn (plant ardal Talgarreg a Llanfihangel y Creuddyn) yn cipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y parti unsain.

A ydych chi’n gwybod pa eisteddfod leol yw’r hyna yn yr ardal? Yn sicr Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith yw un ohonynt! Mae plant a phobol ifanc yr ardal wedi bod yn dangos eu doniau ers cyn yr Ail Rhyfel Byd! Yr adeg hynny bu yn rhaid iddynt ohurio’r eisteddfod. Ond yn 1947, ar ôl y rhyfel, ail gychwynwyd yr eisteddfod ac roedd yn dal i fod yr un mor llwyddiannus.

Er gwaethaf gorfod gohurio’r eisteddfod eto am dair mlynedd, y tro hwn oherwydd cofid, mae Eisteddfod Bryngwenith wedi ail gychwyn ac mae’n dal i ddenu nifer o gystadleuwyr brwd a dawnus!

Yn yr eisteddfod ar ddydd Gwener y pedwerydd ar ddeg o Ebrill 2023, gwahoddwyd  Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake fel Cadeirydd. Beirniad yr adran gerdd oedd Gwawr Owen Roberts, Caerdydd. Ac yn beirniadu’r llên a llefaru oedd Bronwen Morgan, Llangeitho.

Llongyfarchiadau i Gerwyn Rhys am gipio’r wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth yr adran gerdd sef yr ‘Her Unawd Gymraeg Agored’. A’r un canmoliaeth i Carol Davies, enillydd yr ‘Her Adroddiad Agored dros 21 oed’ yn yr adran lefaru. Ond prif gystadleuaeth llenyddol yr eisteddfod oedd cystadleuaeth y gadair ar y testun ‘Y Darlun’. Yn fuddugol oedd Hannah Roberts o Gaerdydd, llongyfarchiadau gwresog iddi!

Braf oedd gweld amryw yn cystadlu ymhob cystadleuaeth ac mae Eisteddfodau o’r fath yn bwysig iawn gan roi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal feithrin eu doniau.

O’r plant ieuengaf i’r henaf, llongyfarchiadau i bob cystadleuwr a fu’n cystadlu a phob lwc i bawb yn y dyfodol. Yn sicr roedd Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith unwaith eto yn llwyddiant mawr a gobeithio y bydd yn parhau am flynyddoedd i ddod!