Merched Y Wawr Bargod Teifi

Te Prynhawn

gan Rayann Eleri Samson
Te Prynhawn

Mwynhau’r te

Cyflwyno Rhodd

Stella yn cyflwyno rhodd i Minnie

Ar brynhawn braf o wanwyn ddechrau Ebrill teithiodd yr aelodau i Westy’r Cliff, Gwbert am de prynhawn. Braf oedd gweld yr holl aelodau yn bresenol ynghŷd â’n gwraig wadd Mrs Jill Lewis, Llywydd Cenedlaethol.

Cafwyd prynhawn o wledda, sgwrsio ac anerchiad gan Jill. Roedd yn gyfle hefyd i ddiolch a dangos gwerthfawrogiad i Minnie Davies am ei gwaith diflino fel trysorydd y gangen am 37 o flynyddoedd. Cyflwynwyd rhodd iddi ar ran y gangen gan ein Llywydd Stella Jones.