Calon Tysul yn recriwtio rheolwyr newydd

Mae 2x swydd ar gael gyda dyddiad cau 14eg o Fai 2023.

Matt Adams
gan Matt Adams
NIN-RECRIWTIO-VACANCIES-1

Ni’n recriwtio ar gyfer 2 swydd rheoli’r ganolfan

Mae cyfleoedd cyffrous newydd ar gyfer yr ymgeiswyr cywir wedi cael ei hysbysebu yn ddiweddar.

Calon Tysul ydy’r pwll nofio a chanolfan hamdden yn Llandysul ac yn rhedeg er fudd y gymuned leol.  Mae cannoedd o bobl yn ymweld â’r ganolfan pob wythnos ar gyfer ystod eang o weithgareddau megis gwersi nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, nofio, cyfarfodydd, gymnasteg a llawer mwy.

Mae’r ymddiriedolwyr Calon Tysul yn chwilio am bobl brwdfrydig dros hamdden sy’n barod i ymrwymo i wneud gwahaniaeth i bobl Llandysul a’r ardael eahanagach.

Swyddi Parhaol – dyddiad cau 14/05/2023

Rheolwr Gweithrediadau (parhaol, llawn amser) – I sicrhau perfformiad gweithredol yn effeithiol yng Nghanolfan Hamdden a Dŵr Calon Tysul, yn unol â gweithdrefnau gweithredu arferol a chynlluniau gweithredu argyfwng gan sicrhau gwasanaeth o safon i’n cwsmeriaid.

Rheolwr Datblygu Busnes a Chyllid (parhaol, llawn amser) – Bydd y swydd hon yn gyfrifol am ysgogi cyfleoedd busnes/codi arian newydd a goruchwylio’r cyllid o ddydd i ddydd yng Nghalon Tysul.

Gweler swydd disgrifiad llawn ar gyfer y swyddi ac i ymgeisio – https://uk.indeed.com/cmp/Calon-Tysul/