Ysgol Gerdd Ceredigion

Côr Ieuenctid Cylch Castell Newydd Emlyn yn cyflwyno sieciau yn dilyn cyngherddau llwyddiannus

Alaw Grug Evans
gan Alaw Grug Evans
5511B5D2-00D4-4F1D-A5FB

Llun gan Barry Adams

DFDB3662-7EF4-4D96-BBC6

Llun gan Barry Adams

Pa ddigwyddiad oedd y mwyaf hanesyddol yng nghylch Castellnewydd Emlyn yn 1993? Ie, wrth gwrs, sefydlwyd Ysgol Gerdd Ceredigion gan Islwyn Evans! Mae’r côr wedi ei sefydlu ers 30 mlynedd bellach ac wedi ennill gwobrau di-ri, o ennill Côr Cymru, gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen a llawer mwy. Mae’n werth gweld yr ystafell ymarfer gyda’r holl dlysau! Mae plant a phobl ifanc ar draws ardal Castellnewydd Emlyn a thu hwnt yn ymgynnull yn wythnosol i fwynhau canu a cherddoriaeth a dysgu sgiliau newydd fel chwarae allweddellau, offerynnau taro, wcwlele a gitar, gan elwa’n fawr o ddwylo medrus a dawnus Islwyn.

Yn ôl ym mis Tachwedd 2022, cynhaliwyd cyngerdd mawreddog gan y côr er mwyn codi arian tuag at ddau achos teilwng iawn, Uned CCU yn Ysbyty Glangwili er cof am Aled Jones, Aberlleine ac hefyd i Gyd-Ymatebydd, Castellnewydd Emlyn er cof am John Thomas, Frondeg, cyn drysorydd y côr. Yn dilyn noson lwyddianus codwyd £2250 i’w rannu rhwng y ddau achos.

Yna ar nos Wener 5ed o Fai 2023 trefnwyd cyngerdd llwyddiannus arall er mwyn cyflwyno’r sieciau i’r ddau achos. Roedd y noson yn wych a llawn bwrlwm lle roedd pawb wedi mwynhau gwrando ar dalentau plant a phobl ifanc yr ardal o dan arweiniad Islwyn. Braf hefyd oedd medru croesawu cynrychiolydd o’r ddau achos i dderbyn y sieciau.

Gobeithio caiff plant yr ardal elwa am flynyddoedd lawer eto o dan arweiniad Islwyn Evans ac rwy’n siwr gwelwn y côr yn parhau i fynd o nerth i nerth.