Pencampwyr Sir Gâr!

Tîm Rygbi Dan 13 Castell Newydd Emlyn yn fuddugol yn erbyn Llanymddyfri, 18-12.

Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn

Roedd hi’n benwythnos Gŵyl Y Banc llwyddiannus i dîm o dan 13 CNE wrth iddyn nhw ddod yn bencampwyr cwpan Sir Gaerfyrddin.

Curodd Emlyn, Llanymddyfri o 18-12 yn Nantgaredig mewn gêm o safon uchel.

Dechreuodd Castell Newydd Emlyn yn dda gan roi pwysau ar linell Llanymddyfri yn gynnar, ac ar ôl deg munud aethon nhw ar y blaen, drwy gais unigol wych Bobby Thomas.  Torrodd y canolwr pwerus drwy’r llinell amddiffynnol o 40 metr allan a doedd dim amheuaeth byddai yna bwyntiau i Gastell Newydd Emlyn.

Parhaodd ieuenctid Emlyn i roi pwysau ar linell Llanymddyfri gyda Gwion Davies yn ochr gamu ei ffordd drwy’r linell amddiffynnol ac yn rhoi Castell Newydd ar y droed flaen. Llwyddodd amddiffyn Llanymddyfri i gadw Emlyn allan y tro hwn ond roedd Castell Newydd yn agosáu at ail gais.

Enillodd bois Dol y Wiber linell yn ddwfn yn hanner Llanymddyfri. Cafwyd rhediad cryf gan Elis Evans bant o sgarmes symudol pwerus a daeth yn agos at sgorio. Cymal ar ôl cymal roedd yn rhaid i Gastell Newydd Emlyn fanteisio o’r holl bwysau ac ar ôl dadlwytho gwych gan y prop Llew Thomas a dwylo arbennig y cefnwyr, sgoriodd Abel Rees yn y cornel i wneud y sgôr yn 10-0.

Roedd cyfle i Emlyn ymestyn eu mantais cyn diwedd yr hanner gyda Gwilym Williams yn cymryd y bêl gyflym gan osod Bobby Thomas mewn bwlch ond y tro yma roedd cadernid amddiffyn Llanymddyfri i’w ganmol.

Ar ol torr-calon i dîm CNE yn y rownd derfynol y llynedd, roedd yr hyfforddwyr yn cydnabod pwysigrwydd cynnal y pwysau ar linell amddiffynnol Llanymddyfri, a dyna a wnaethon nhw.

Enillodd Castell Newydd Emlyn gic gosb o dan byst Llanymddyfri yn gynnar yn yr ail hanner. Cic lwyddiannus i Gwilym Williams ac yn ymestyn y fantais i 13-0.

Roedd Llanymddyfri yn gadarn ac yn benderfynol i beidio ildio . Roedd hi’n hanfodol i CNE amddiffyn am gyfnod ond llwyddodd canolwr Llanymddyfri dorri’r linell amddiffyn ar yr ochr dywyll a rhoi ei dîm nol yn y gêm. Ni lwyddodd Llanymddyfri gyda’r trosiad a’r sgor erbyn hyn yn 13-5.

Gyda’r ddau dîm yn llygadu’r cwpan a’r cyfle i chwarae ar Barc y Sgarlets roedd y nerfau yn sicr yn dechrau dangos.

Mewn cyfnod pwysig o’r gêm, derbyniodd Gwilym Williams y maswr y bêl ar linell dwy ar hugain Llanymddyfri a churo pob amddiffynwr oedd o’i flaen e cyn sgori cais gwych yn y gornel. Methu oedd hanes y trosiad ac Emlyn ar y blaen o 18-5 gyda 5 munud i fynd.

Sicrhaodd y maswr ifanc bod gweddill y gêm yn mynd i gael ei chwarae yn hanner Llanymddyfri gyda chyfres o giciau gwych i droi’r amddiffyn.

Er hyn, parhaodd Llanymddyfri i frwydro yn galed a gyda’r cloc yn y coch sgoriodd y canolwr ei ail gais o’r gêm.

Sgor terfynol 18-13 a thîm dan 13 Castell Newydd Emlyn yn haeddiannol yn ennill cwpan Sir Gaerfyrddin. Llongyfarchiadau anferthol.

(Stori gan Rhian James)