Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn barod am y Rali!

Timoedd Tynnu’r Gelyn Capel Iwan yn barod i gystadlu’n frwd yn Rali CFfI Sir Gâr.

gan Sara Jones

I nifer o aelodau’r Ffermwyr Ifanc uchafbwynt y calendr blynyddol yw’r Rali, yn enwedig i’n timoedd Tynnu’r Gelyn (TOW) ni yng Nghapel Iwan!

Mae’r timoedd iau a hŷn bellach wedi bod yn ymarfer yn frwd, heb anghofio gymryd cyfle i gael sgwrs a rhoi’r byd yn ei le, ers wythnosau ar gyfer y Rali ar ddydd Sadwrn 13eg o Fai.

Does dim amheuaeth bod bwrlwm diwrnod y Rali yn ddigon i hala unrhywun eisiau ymuno â’r mudiad! Ac yn sicr, fe fydd y tîmau’n falch o glywed môr glas o gefnogwyr CFfI Capel Iwan ar ochrau’r gystadleuaeth dydd Sadwrn yma.

Duw a wŷr beth ddaw o ran canlyniadau’r timoedd yfory ond, un peth sy’n sicr, bydd y ddau hyfforddwr wedi dod o hyd i’r bar yn go handi ar ôl i’r holl dynnu ddod i ben!

Felly dewch lawr i gefnogi clybiau CFfI Sir Gâr yfory ar safle’r Sioe Nantyci gyda’r ddawns i ddilyn! 🕺🏼