Pencampwyr Cwpan Scarlets Dan 13!

Castell Newydd Emlyn Dan 13 36 – 20 Aberystwyth Dan 13

Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn
Hawlfraint Riley Sports - www.rileysportsphoto.com Dangosir y llun gyda chaniatâdHawlfraint Riley Sports

Canolwr, Bobby Thomas yn torri’r amddiffyn

Hawlfraint Riley Sports - www.rileysportsphoto.com Dangosir y llun gyda chaniatâdHawlfraint Riley Sports

Khaylum White yn herio pac Aberystwyth

Parc y Scarlets - y ddau dîm yn disgwyl dod i'r cae

Llun gan M. Adams

Hawlfraint Riley Sports - www.rileysportsphoto.com Dangosir y llun gyda chaniatâdHawlfraint Riley Sports

Capten Abel Rees ar y ffordd i sgorio cais

Pencampwyr Cwpan Scarlets 2023!

Y garfan gyfan, hyfforddwyr a rheolwyr y tîm

Ar ôl dod yn bencampwyr Sir Gaerfyrddin ar ddiwedd mis Ebrill, mae tîm Dan 13 Castell Newydd Emlyn wedi ennill Cwpan Scarlets. 

36 – 20 oedd y sgôr terfynol ar Barc y Scarlets, Llanelli yn erbyn Aberystwyth ar Ddydd Sul 14eg o Fai 2023.

Ceisiau: Abel Rees, Bobby Thomas 2, Gwilym Williams 2, Elis Evans Trosiadau: Gwilym Williams 3

Mewn gêm gyffrous arall, dangosodd Emlyn eu doniau unwaith eto trwy sgorio 6 cais i 4 yn erbyn pencampwyr Sir Benfro / Ceredigion dan 13, Aberystwyth.

Cafodd y ddau dîm y fraint o chwarae ar Barc y Scarlets gan eu bod nhw wedi ennill cwpanau eu siroedd, Cwpan Sir Gaerfyrddin (Emlyn) a Chwpan Sir Benfro / Ceredigion (Aber) yn ddiweddar.

Felly roedd hwn yn gyfle i ddod yn bencampwyr rhanbarth Scarlets a theithiodd rhieni, teuluoedd, cefnogwyr a chwaraewyr Emlyn gyda’i gilydd o Ddôl Wiber yn llawn cyffro.

Ar ddechrau mis Ebrill, roedd Emlyn wedi teithio at Gaeau Plascrug gan ennill y gêm yn erbyn Aberystwyth 46-10.  Ar y diwrnod hwnnw, roedd Bobby Thomas yn enwedig, yn creu problemau mawr i Aber yng nghanol cae.  Felly, roedd carfan Emlyn yn teimlo’n hyderus wrth gyrraedd Llanelli.

Ond mewn gêm rownd derfynol, allech chi byth cymryd dim byd yn ganiataol ac mi oedd tîm Aberystwyth yn herio’r Emlyn yn ddiflino tan ddiwedd y gêm.

Sgoriodd Aberystwyth bedwar cais o safon uchel ac mi oedd y gêm yn llawer agosach na beth oedd y bwrdd sgorio yn ei ddangos.

Cafodd blaenwyr Emlyn gêm galed gyda bachwr Aberystwyth yn cario’r bêl dro ar ôl tro a’r mewnwr yn achosi sawl problem i amddiffyn Emlyn gyda’i ochrgamu a rhedeg bygythiol.

Ond mi wnaeth olwyr Emlyn sgorio sawl cais arbennig trwy redeg nerthol y canolwr, Bobby Thomas a’r capten, Abel Rees, yn ogystal â sgiliau dwylo a chicio, Gwilym Williams, oedd yn tynnu’r awenau unwaith eto o’i safle, maswr.

Cafodd Gwilym Williams gêm ardderchog arall, yn dilyn ei berfformiad campus yn erbyn Llanymddyfri yn ffeinal Cwpan Sir Gâr, gyda dau gais – yr ail yn dilyn cic fedrus i guro’r amddiffyn.

Er safon chwarae ymosodol uchel yr olwyr, nid oedd blaenwyr Emlyn am adael yr olwyr hawlio’r pwyntiau i gyd a chafodd y bachwr, Elis Evans, 5 pwynt yn dilyn sgarmes symudol ar ddwy ar hugain, Aberystwyth.

Hawliodd y clo, Liam Biggs y bêl yn y lein, ffurfiodd blaenwyr Emlyn sgarmes o’i gwmpas ac yna gyrru tuag at linell Aberystwyth.  Gwnaeth Evans dirio ar ôl i’w bac cyfan hyrddio pac Aber nôl bron 20 metr.

Fe gariodd y blaenasgellwr, Khaylum White, y bêl sawl gwaith ar ôl derbyn pasys byr wrth y mewnwr, Osian Williams ac yna Seth James yn yr ail hanner.  Roedd y dacteg hon yn tynnu sawl amddiffynwr ato er mwyn ei atal – ac o ganlyniad roedd hynny’n creu’r gofod i’r olwyr ymosod.

Ond roedd cais y dydd yn gais tîm, gyda Abel Rees yn gorffen symudiad ar ôl gwaith da gan bac Emlyn ar yr asgell chwith. Lledwyd y bel yn bert trwy ddwylo Gwilym Williams, Bobby Thomas, Gwion Davies, cyn cyrraedd y cefnwr, Rees 25 metr o’r llinell gais, a rhedodd hwnnw tu allan yr asgellwr cyn tirio’r bêl o dan y pyst.

36-20 oedd y sgôr terfynol ac roedd yn ddiweddglo i dymor gwych arall i garfan Emlyn Dan 13.

Yn ystod y tymor, mae’r garfan wedi para i wella’n gyson,  gyda’r tîm hyfforddi yn pwysleisio mwynhad a chyfeillgarwch rygbi yn hytrach nag ennill.  Wedi dweud hynny, mae’r tîm ond wedi colli dwy gêm trwy gydol y tymor ac wedi ennill dau gwpan!

Mae’r garfan yn edrych ymlaen at noson wobrwyo yng nghlwb Emlyn ar Nos Iau 25ain o Fai i edrych nôl ar dymor gwych o rygbi ac i edrych ymlaen at y tymor nesaf.

CNE Dan 13: Abel Rees (capten); Liam Bowen, Gwion Davies, Bobby Thomas, Gruff Dafis, Gwilym Williams, Osian Williams, Iestyn Evans, Elis Evans, Llew Thomas, Liam Biggs, Dion Morris-Dyer, Khaylum White, Evan Jenkins, Cynan Iago.

Eilyddion: Seth James, Gruff Williams, Gwion Jones-Howells, Charlie Harrison, Sion Evans, Llion Jones, Jack Rees-Pool.

Hyfforddwyr: Gareth Williams, Gethin Davies, Matt Adams, Chris Watson Rheolwr tîm: Owen Jones-Howells