Ysgol Bro Teifi yn Eisteddfod yr Urdd 2023

Disgyblion Bro Teifi yn barod i’r Eisteddfod

Alaw Grug Evans
gan Alaw Grug Evans
412BB016-5B0E-4029-9DA0

Ydych chi’n mynd i’r Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri eleni? Neu effallai’n cystadlu? Ta waeth, mae plant brwdfrydig ein hardal ni wedi bod yn brysur wrth ymarfer ar gyfer yr wythnos fawr yn Llanymddyfri. Tra bu rhai plant yn canu ac yn llefaru mae eraill wedi bod yn dangos eu doniau mewn gwaith celf, barddoniaeth, a rhyddiaith!  Dyma i chi restr o lwyddiannau disgyblion Ysgol Bro Teifi…

Alis Evans – 1af Barddoniaeth Bl.8

Rebecca Rees – 2il Barddoniaeth bl.12 a 13

Criw o fl.8 – 2il Cywaith yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau llenyddol (bl.7-9)

Deio Ifan – 3ydd Rhyddiaith dan 25 oed (stori fer)

Telor Jenkins – 3ydd Adolygiad o ffilm (bl.7-9)

Daniel Evans – 3ydd Barddoniaeth bl.10 ac 11

Kara Williams – 3ydd Llun 2D Bl.10 a dan 19 oed

Da iawn i bawb a gystadlodd a phob lwc i chi gyd yn y dyfodol! Bydd modd i chi fynd i weld arddangosfa gwaith rhai o’r disgyblion uchod yn y Babell Celf a Chrefft ar y maes yn Llanymddyfri.

Mae nifer fawr o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi wedi bod yn ymarfer ar gyfer cystadlaethau’r llwyfan, ers misioedd ar fisioedd bellach, ac mae’n fraint cael dweud bod nifer fawr o gystadlaethau yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ysgol. Os ydych yn mynd i’r Eisteddfod, neu’n cefnogi o’r soffa, dyma i chi restr o gystadlaethau Ysgol Bro Teifi :-

Dydd Llun 29.5.23

Dawns Werin Bl.6ac iau (Ysgolion dros 100 oblant rhwng 4-11oed ac Adrannau)

Gwenlli Thomas – Unawd Bl.5 a 6

Lois Hywel – Unawd Bl.2 ac iau

Ryan Newham – Unawd Gitâr Bl 6 ac iau

Dydd Mawrth 30.5.23

Parti Deulais Bl.6 aciau (YC / Adran)

Parti Unsain Bl.6 ac iau (YC)

Dydd Mercher 31.5.23

Hawys Davies -Unawd ChwythbrennauBl.7, 8 a 9

Dydd Iau 1.6.23

Perfformiad Theatrig i Grŵp Bl.7, 8 a 9

Parti Bechgyn Bl.7,8 a 9

Parti Merched Bl.7,8 a 9

Côr S.A. Bl.7, 8 a 9

Dydd Gwener 2.5.23

Dawns Werin Bl.10 a dan 19 oed

Grŵp Llefaru Bl.10 a dan 19 oed

Ensemble Offerynnol Bl.10 a dan 19 oed

Côr T.B. Bl.13 ac iau Pafiliwn Gwyrdd

Guto Jenkins – Unawd T/B Bl.10 a dan 19 oed

Erin Tomos – Unawd S/A Bl.10 a dan 19 oed.

Peredur Llywelyn -Llefaru Unigol Bl.10 adan 19 oed

Deuawd Bl.10 a dan 19 oed – Erin a Fflur

Dydd Sadwrn 3.5.23

Fflur Williams – Dawns Werin Mewn Arddull Draddodiadol i Ferched Bl.10 ac o dan o 25 oed

Rhestr hir! Ond pob lwc i chi gyd a mwynhewch y profiad. Mae’r ardal yn lwcus iawn o fedru cael hyfforddwyr talentog i ddysgu’r disgyblion ac dwi’n siwr bod pawb arall yn cytuno ac yn ddiolchgar iawn. Mae’r ymarferion hir wedi bod gwerth pob dim felly mwynhewch yr hanner tymor!