Swyddogion Ysgol Bro Teifi 2022-23

Crynhoad o flwyddyn Prif Sywddogion YBT 2022-23 ac ychydig o ‘Top Tips’ i Swyddogion blwyddyn nesaf.

gan Sara Jones

Prif Swyddogion a Dirprwy Prif Swyddogion YBT 2022-23 (1 yn absennol)

Prif Swyddogion a Dirprwy Prif Swyddogion YBT 2023-24 (1 yn absennol)

Mae’n sicr bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un brysur iawn i Brif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion Ysgol Bro Teifi 2022-2023. Ers dechrau ar eu swyddi, mae’r 6 person ifanc yma wedi gwneud eu gorau glas i drefnu digwyddiadau, codi arian at elusennau a dod yn rhan fwy gweithgar o’r gymuned tu fewn a thu hwnt i furiau’r ysgol.

Un o brif nodau’r Swyddogion eleni oedd hybu’r Gymraeg a Chymreictod o fewn yr ysgol, gan godi ymwybyddiaeth o ddathliadau Cymraeg megis Diwrnod Shwmae Su’mae a Dydd Miwsig Cymru. Un ffordd y gwnaethpwyd hyn oedd drwy greu fidio o ddisgyblion ac athrawon yn dweud ‘Shwmae!’ gan hefyd ofyn i weithwyr siopau lleol i fod yn rhan o’r fidio. Yn yr un modd, adeg Dydd Miwsig Cymru ym mis Chwefror, crëwyd fidio tebyg yn gofyn am hoff ganeuon Cymraeg cymuned Ysgol Bro Teifi.

Wrth ystyried cymuned Ysgol Bro Teifi rhaid cofio am adran gynradd yr ysgol. Eleni, trefnwyd bod disgyblion o’r Chweched Dosbarth yn rhoi o’u hamser yn foreol i fynd lawr i’r ysgol gynradd i ddarllen â’r plant cynradd. Rhaid cydnabod bod hyn yn edrych yn dda ar ffurflenni UCAS ar gyfer y brifysgol, ond mae hefyd yn gyfle i ni allu integreiddio mwy o’r ysgol gynradd ac uwchradd er mwyn helpu i atgyfnerthu’r gymuned gyfeillgar a hapus ym Mro Teifi.

Roedden nhw hefyd yn awyddus i helpu codi arian tuag at elusennau boed trwy gyfrwng Bore Coffi Macmillan neu wisgo ‘pyjamas’ i’r ysgol. Trefnwyd diwrnod brysur iawn adeg Diwrnod Plant Mewn Angen er mwyn codi arian tuag at yr elusen. Roedd nifer eang o weithgareddau ar gael er enghraifft: helfa drysor, cystadleuaeth enwi tedi, safle i dynnu lluniau ac am y tro cyntaf erioed, trefnwyd gêm bêl-rwyd rhwng y Chweched dosbarth a’r staff – gyda’r chweched yn cipio’r fuddugoliaeth! Yn sicr roedd yr ysgol yn llawn bwrlwm trwy gydol y dydd, yn enwedig pan siafiodd Mr Hedd Ladd-Lewis ei farf yng nghoridor yr ysgol at yr achos. Llwyddwyd i godi dros £1,500 yn ystod y diwrnod.

Yn yr un modd, buodd y swyddogion yn cynrychioli’r ysgol mewn cyrddau lleol megis adeg Sul y Cofio a Dydd Gwyl Dewi gan osod torch neu ddarllen cerddi allan yn ystod y gwasanaethau.

Yn amlwg roedd angen manteisio ar gyfleoedd i allu ymlacio a chymdeithasu, boed mewn partïon neu ddigwyddiadau ychydig yn fwy ffurfiol. Does dim dwywaith bod yr her a’r straen o drefnu’r digwyddiadau yma werth yr holl sbort a mwynhau, yn ogystal â’r cyfleoedd i allu cymdeithasu â dosbarthiadau chweched ysgolion eraill gan hefyd godi arian i’r Chweched Dosbarth er mwyn sicrhau ei bod hi’n bosib gallu cynnal digwyddiadau tebyg.

Top Tips i Swyddogion 2023-24: 

  • Cyfathrebwch gyda’ch gilydd yn glir- mae’n gwneud bywyd yn haws mewn cyfarfodydd wythnosol!
  • Gwrandewch ar eich gilydd ac ar syniadau/awgrymiadau eich cyd-ddisgyblion chweched dosbarth.
  • Edrychwch am leoliadau digwyddiadau e.e. ‘Winter Ball’ neu Cinio Chweched yn gynnar- gall opsiynau fynd yn brin.
  • Yn hytrach na meddwl am eich hunain fel 8 unigolyn, ceisiwch feddwl am eich hun fel uned gan fydd pawb yn dibynnu ar ei gilydd i gyfathrebu.

Ond, yn bwysicaf oll, joiwch y profiad! Mae’r flwyddyn yn hedfan!