Taith y Pererindod

Diwrnod llawn antur I blant blwyddyn 5 a 6 Ysgol Penboyr!

gan Blwyddyn 5/6 Ysgol Penboyr
IMG_1056

Mis diwethaf, aeth blywyddyn 5 ar daith i ymweld â Eglwys Dewi Sant yn Llanddewi Brefi. Yn y eglwys cawsom hanes chwedl Dewi Sant, yna dysgu am y swper olaf. Roeddwn ni wedi mwynhau cael gweld yr Eglwys i gyd gan Vicer Canon Eileen Davies.

Dysgom am sut roedd yr eglwys wedi cael ei adeiladu, a sut oedd hances Dewi Sant wedi codi’r tir a’n golygu bod pawb yn medru clywed a gweld Dewi Sant.

Ar ôl bod i’r eglwys, roeddwn yn lwcus i fynd i weld Dafydd Davies, gwneuthurwr ffyn. Mae Dafydd Davies wedi creu ffyn ar gyfer y Brenin Charles a’i feibion, waw!

Roedd hi’n braf iawn, felly aethom i’r traeth i ysgrifennu ar greigiau, pethau fel ‘Heddwch’, ‘Hapusrwydd’ a ‘Ffydd, Gobaith, Cariad’. Roedd Flynn yn teimlo’n ‘ysbrydol’, ac roedd Ella’n teimlo’n ‘hapus’ wrth wneud hyn. Roedd Cai yn teimlo ‘fel bod llawer o heddwch ar y traeth’.

Ein hoff ran o’r diwrnod oedd yr hufen ia yn Angelatos! Roeddwn i gyd wedi mwynhau hufan iâ yn Aberaeron ar ddiwedd y trip. Hoffwn ni ddweud diolch i’r athrawon a oedd wedi mynd â ni ar daith Pererindod ac i Aberaeron. Rydym yn argymell chi i fynd i ymweld â’n creigiau yn Aberaeron (a chael hufen iâ!)