Bydd canlyniadau yr Eisteddfod Ddawns yn ymddangos fan hyn ddydd Mercher (12 Gorffennaf) a chynhelir gweddill yr Eisteddfod prynhawn ddydd Iau (13 Gorffennaf) a thrwy ddydd Gwener (14 Gorffennaf).
Enillydd Coron Iau YBT 2023 yn Sioned Elias-Davies.
Mae Seremoni y Coroni newydd ddechrau.
Mae’r gynulleidfa’n barod ar gyfer cystadlu’r prynhawn.
Rhan o berfformiad buddugol Unawd Offerynnol Hŷn – Alwena Owen
Rhan o berfformiad buddugol Teifi – Dawnsio Disgo Iau
Canlyniad y Limrigau Cymraeg:
1af – Jano Evans:
Un bore wrth godi o’r gwely
Es mas ar fy union i’r beudy,
I chwilio fy sbecs
Ynghanol y stecs.
Nid jobyn bach rhwydd yn amaethu.
2il – Lowri Jones:
Daeth pawb yn un tyrfa i’r Steddfod
I ganfod a fydde teilyngdod
yn y Gadair a’r Goron,
i’r côr a’r partïon.
A dathlu a wna ein Cymreictod.
Cydradd 3ydd – Alaw Evans:
Daeth pawb yn un tyrfa i’r Steddfod
gan obeithio am gael teilyngdod.
Aeth Mami yn grac,
Dim gwobr i Jac!
Aeth draw at y beirniad a ‘mosod.
Cydradd 3ydd – Lois a Gwennan:
Daeth pawb yn yn tyrfa i’r Steddfod
A’r twrw oedd yn creu cryndod.
Tysul yn ffoi,
Emlyn o’u coi,
A Teifi fel haid o fwncïod!
Rhan o berfformiad buddugol Gwennan Owen – Llefaru Unigol Iau/Monolog
Canlyniad Sgets:
1af – Teifi
2il – Emlyn
3ydd – Tysul
Canlyniad Llefaru Unigol Iau/Monolog:
1af – Gwennan Owen
2il – Magw Thomas
3ydd – Steffan Rees
Sgets Tysul.