Elen ar y Teifi

Ffair Elen

Lesley Parker
gan Lesley Parker

Mae penwythnos Ffair Elen wedi dod i ben yn Llandysul a gobeithio bod mwy o bobl yn gwybod pwy oedd Elen. Bydd llawer o luniau a adroddiadau yn dod o Brosiect Plethu yn nes ymlaen.

Ond, am nawr, dyma fideo a llun o un o’r deuddeg Elennod yn cael ei sgubo lawr y Teifi yn ei gwisg fawr aur mewn kayak. Yn ôl Cyfarwyddwr Ffair Elen, Eddie Ladd, roedd hyn i fod “rhyw unstately progress” ond, yn wir, mae Elen o Landysul, mam Owain Glyndŵr, yn edrych yn brenhinol.

Diolch i Elen (Becca ddewr) a’r Llandysul Paddlers.