Gwobr Dug Caeredin Arian

Disgyblion Ysgol Bro Teifi yn llwyddo

gan Mali Grug Evans

Yn ddiweddar, bu disgyblion blwyddyn un ar ddeg Ysgol Bro Teifi wrthi yn cwblhau’r her Arian Gwobr Dug Caeredin. Wedi wythnosau o wirfoddoli, arddangos sgiliau arbennig a chwblhau gweithgareddau corfforol fe fentron nhw allan ar alldaith gan ddechrau yng nghysgod mynyddoedd y Preseli. Cerddon nhw filltiroedd dros y mynyddoedd cyn gorffen yn Nhrefdraeth. Roedd y digyblion allan ar yr alldaith am ddwy nosweth a thri diwrnod. I gwblhau’r alldaith, y nod oedd i gerdded gan gario bag trwm  o oddeutu 14kg ar eu cefnau a oedd yn cynnwys pethau angenrheidiol fel pabell, dillad a bwyd. Roedd hefyd rhaid iddyn nhw gerdded a dilyn map yn ogystal â chodi’r babell a pharatoi bwyd. Heb os, roedd y tridiau yn dri diwrnod heriol yng nghanol ambell gawod o law ond fe wnaeth yr holl ddisgblion elwa a chreu atgofion oes ac wrth gwrs llwyddo I ennill Gwobr Arian Dug Caeredin.