Ymunwch â thîm pêl-droed Bargod Rangers!

Timoedd newydd ar gyfer dan 10 a dan 6 oed.

Cerian Eleri Rees
gan Cerian Eleri Rees
IMG_0422

Ydy’ch plentyn yn mwynhau chwarae pêl-droed? Beth am ymuno â thîm Bargod Rangers?

Eleni, cafwyd digon o ddiddordeb i ail-ddechrau timoedd dan 10 oed a dan 6 oed felly rydym yn chwilio am fwy o blant awyddus i ymuno! Bydd pob tîm yn chwarae gemau bob bore dydd Sadwrn. Croeso i ferched a bechgyn.

Ble? Parc Puw, Drefach Felindre.

Pryd? Nos Fercher, 5yh-6yh.

Cost? AM DDIM!

Os hoffech eich plentyn ymuno â thîm dan 6 (plant blwyddyn 1), cysylltwch â Gethin ar 07449190090

Os hoffech eich plentyn ymuno â thîm dan 10, cysylltwch â Rhydian ar 07572039501