Apêl Cyfel i bawb Urdd Gobaith Cymru

Cyfle i bawb

gan Haulwen LEWIS
Hysbyseb-digidol-papurau-bro-1

Cyfle i Bawb

Gyda bron un plentyn ym mhob tri yn byw mewn tlodi yng Nghymru, mae’r gronfa hon yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i fwynhau gwyliau haf.

Nod y gronfa yw rhoi profiadau bythgofiadwy i bob plentyn tu allan i’r ystafell ddosbarth drwy fynychu un o wersylloedd haf yr Urdd.

Rydym angen eich help chi i roi’r cyfle hwn i 250 o blant Cymru yn 2024. Bydd eich cyfraniad chi yn ein helpu ni i sicrhau fod atgofion Gwersylloedd haf eiconig yr Urdd yn rhan o stori plentyndod bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

Ewch i wefan yr Urdd am fwy o wybodaeth.