Sioe Gerdd Torri’n Rhydd

Sioe Gerdd lwyddiannus gan Ysgol Bro Teifi

gan Mali Grug Evans

Yn ddiweddar, bu bwrlwm mawr yn Ysgol Bro Teifi.  Am wythnosau fe fuon ni, criw o blant yr ysgol, yn ymarfer yn ddiwyd ar gyfer ein sioe Torri’n Rhydd sef addasiad Cymraeg o’r sioe gerdd boblogaidd ‘High School Musical’. Mae hi’n sioe gerdd gyfarwydd iawn i nifer o bobl sy’n llawn dawnsio a  chanu yn ogystal ag ychydig bach o ramant a chenfigen. Beth mwy sydd ei angen?

Felly, ar ddiwedd Tachwedd, daeth y foment fawr gyda sawl perfformiad yn neuadd yr ysgol.  Roedd y gefnogaeth yn anhygoel gyda’r neuadd yn llawn am dair noson yn olynol.  Roedd yr holl ymarferion a’r gwaith caled heb os wedi talu’u ffordd a phawb ar y llwyfan yn joio mas draw.  Roedd pawb mor ddiolchgar am gael cyfle i fod yn rhan o’r holl fwrlwm a’r hwyl. Roedd y sioe yn gyfle i ni fel disgyblion i fagu hyder ar lwyfan ac i wthio ein gilydd i gyrraedd ein gwir potensial. Braf oedd gweld ystod eang o oedran ar y llwyfan hefyd– o ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13  i ddisgyblion blwyddyn saith.  Cafodd pawb y cyfle i fod yn rhan o’r profiad anghygoel.

Tomos Lloyd-Evans, disgybl blwyddyn 13, oedd yn actio’r cymeriad ‘Troy Bolton’ sef un o’r prif gymeriadau.

Yn ôl Tomos, “Roedd bod yn y sioe yn brofiad gwahanol iawn ac yn wych. Roedd cael gweithio gyda ffrindiau a phobl gwahanol yn brofiad da iawn. Roedd yr holl brofiad wedi fy herio gan nad wyf yn berson sydd yn actio nac yn gerddorol chwaith. Fe wnes fwynhau y profiad yn fawr a roedd cefnogaeth yr athrawon a fy ffrindiau yn help mawr drwy gydol yr amser.”

Prif gymeriad arall y sioe oedd ‘Gabriella Montez’ ac Erin Tomos oedd hi.

Dywedodd Erin, “O’dd e’n brofiad hollol fythgofiadwy bod ar y llwyfan wrth neud y sioe. O’dd e mor hyfryd cael gweithio gyda disgyblion fydden ni ddim ‘di cymysgu gyda’n flaenorol. Fi mor ddiolchgar i’r athrawon ac i bawb sydd wedi helpu mewn unrhyw ffordd am roi y cyfle arbennig yma i ni.”

Hoffai holl ddisgyblion y sioe ddiolch yn fawr i’r holl staff am roi o’u hamser ac i’r holl ddisgyblion a weithiodd y tu ôl i’r llenni er mwyn cynhyrchu sioe o safon – nid yn unig ar lwyfan y mae’r gwaith caled.

Diolch i bawb am ddod i’n cefnogi ac am roi profiad cerddorol anhygoel i ni fydd yn aros yn ein cof am flynyddoedd i ddod.