Agoriad yr Ŵyl Goed Nadolig, Eglwys St Tysul, Llandysul

gan Eluned Morgan, AS

Lesley Parker
gan Lesley Parker
PXL_20231216_141906353-2

Eluned Morgan AS

PXL_20231216_142729610

Eluned Morgan AS a’r Parch Gareth Reid

PXL_20231216_145316338.MP_

Côr Gospel Cymunedol Llandysul

Roedd Eglwys St Tysul yn dan ei sang ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 16eg, pan agorwyd yr Ŵyl Goed Nadolig gan Eluned Morgan, AS.

Roedd canu gan ddisgyblion Ysgol Bro Teifi blwyddyn 2 – 6, a gan y Gwiwerod (Sgowtiaid bach rhwng 4 a 6 oed).

Wedyn, tra oedd Côr Gospel Cymunedol Llandysul yn canu, roedd amser i’r gynulleidfa mwynhau’r coed nadolig, mins peis a gwin cynnes, ac wrth gwrs i gymdeithasu!