Cynhaliwyd cwrdd Nadolig plant Ysgol Sul Tabernacl Pencader prynhawn Sul Rhagfyr 10. Er na chyflwynwyd drama’r geni eleni bu’r plant yn mwynhau darllen yr hanes, a chanu carolau, gyda phob un yn cymerid rhan.
Cafwyd datganiad hyfryd a phroffesiynol ar y ‘tenor horn’ gan Celyn Davies, ac hefyd ar yr organ gan Gruffydd Davies. I orffen y gwasanaeth cyflwynwyd rhoddion ac arian i’r plant am eu ffyddlondeb i’r Ysgol Sul yn ystod 2023, gan eu annog i ddod eto yn 2024. Diolchwyd i’r rhieni am eu parodrwydd bob amser i gludo eu plant i’r Ysgol Sul. Bu’r gweinidog Chris Bolton yn sgwrsio a’r plant, ac hefyd yn llongyfarch Nancy Jones ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed.
Roedd te a chacennau wedi eu paratoi yn y festri, a bu Nancy Jones yn torri ei chacen penblwydd a rannwyd rhwng pawb oedd yn bresennol.
Prynhawn Sul Rhagfyr 17eg cynhaliwyd gwasanaeth Carolau Gofalaeth Broydd Teifi yn y Tabernacl, a oedd dan ofal ein Gweinidog.
Daeth nifer ynghyd, a’r canu yn hwylus, ac aelodau o’r pedair eglwys yn darllen rhannau o’r ysgrythur. Marc Jones oedd yr organydd yn y ddwy oedfa. Unwaith eto aeth pawb i’r festri ar ôl y gwasanaeth i gael te a mins peis.