Cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi

Dathlu Cymreictod

Cered Menter Iaith Ceredigion

Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r trefi yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.

Dywedodd Siriol Teifi, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth.”

Cafodd y ffenestri ei beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.

Dyma’r canlyniadau

Aberteifi

1af – Crafters Cwtch

Llandysul

1af – Teifi Law Ltd

Tregaron

1af – Siop Nwyddau Caron

Aberystwyth

1af – Thatch

Derbyniodd yr enillwyr darian her Cered i’w gadw am flwyddyn. Os hoffech weld y ffenestri wedi eu haddurno ewch draw i dudalen Facebook neu Instagram Cered Menter Iaith Ceredigion.