Bois Bro Teifi yn y Principality

Pencampwyr y Plat!

gan Jano Wyn Evans

Bu cyffro mawr yr wythnos ddiwethaf wrth i fechgyn hŷn Ysgol Bro Teifi wynebu Ysgol Bro Pedr yn ffeinal Plât dan 18 yr ysgolion a’r colegau.  Mi roedd yn brofiad bythgofiadwy i’r bechgyn gael camu ar gae chwarae mwyaf Cymru lle rydym wedi gweld nifer o sêr Cymru yn chwarae yn cynnwys Gareth Davies a Gareth Thomas, cyn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Teifi.

Fe deithiodd disgyblion y chweched a blwyddyn 11, yn ogystal â theulu a ffrindiau’r chwaraewyr i lawr i’r brifddinas bore dydd Mercher diwethaf er mwyn cefnogi’r bechgyn tuag at y fuddugoliaeth.  Roedd y gefnogaeth yn grêt a nifer o ddisgyblion iau yr ysgol yn barod i wylio o’r ysgol.

Ar ddechrau’r gêm cafwyd munud i gofio am ddau ddisgybl, Callum Wright o Ysgol Bro Pedr a Llyr Davies o Ysgol Bro Teifi. Roedd Llyr yn gymeriad hoffus ac yn boblogaidd yn yr ysgol.

Fe ddechreuodd y gêm yn wych i Fro Teifi wrth i Guto Dafis sgorio cais gyntaf y gêm o fewn 30 eiliad. Yn dilyn cais Guto, fe sgoriodd Osian Taylor gais o dan y pyst, ail gais i Fro Teifi. Daeth trydydd a phedwerydd cais yr ysgol i Tomos Edwards ac fe wnaeth Tomos Lloyd-Evans, capten y tîm, sicrhau pwyntiau pwysig wrth gicio. Wedi brwydro trwy gydol y gêm y sgôr terfynol oedd 29-7 i Fro Teifi ac roedd y tîm yn hollol haeddiannol o’r fuddugoliaeth. Penodwyd Tomos Edwards yn chwaraewr y gêm.

Ar ôl arwain y tîm, dywedodd Tomos Lloyd-Evans,

“Roedd e’n brofiad anhygoel cael arwain y bois mewn ffeinal yn y Principality. O’r cychwyn roedd y bois wedi dangos calon ac roedd yn amlwg o’r dechrau bod y bois lan am y gêm yma. Roedd hi’n fraint cael chwarae ein gêm diwethaf i’r ysgol mewn ffeinal yng Nghaerdydd, ac roedd yn bonws cael ennill cystadleuaeth y plât yn ogystal â churo cystadleuaeth rhwng bois lleol.”

Llongyfarchiadau enfawr i’r bechgyn a gobeithiwn yn wir eich gweld yn y ffeinal eto y flwyddyn nesaf!