Clwb Gwanwyn Llanfihangel-ar-Arth

Clwb Gwanwyn

gan Haulwen LEWIS
Clwb-Gwanwyn-Llanfihangel-ar-arth

“Trwy’r Tannau”

Sefydlwyd at 2024 “Clwb Gwanwyn” yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel-ar-arth, sef cyfres o ddigwyddiadau adloniant misol fel arbrawf i weld a ellid ei sefydlu’n ganolfan barhaol ar gyfer digwyddiadau o’r fath. Dylai pawb sydd am fod ar y rhestr e-bostio. “What’s app.” a neu Messenger i gael gwybod am yr holl ddigwyddiadau anfon at meinir@cadwyn.com, a chi wedyn fydd y rhai cyntaf i glywed am bopeth sy’n dod lan. Trefnwyd eisoes nosweithiau amrywiol ar gyfer Chwefror , Mawrth, Ebrill a Mai eleni – a hyn ar ben y dathliad Gwyl Dewi ac Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth, cyfarfodydd rheolaidd y Gymdeithas Hanes etc. Mae’n gyfnod prysur iawn felly.

Torrwyd tir newydd yn Chwefror gyda “Noson Gomedi Gymraeg” pryd y daeth agos at hanner cant ynghyd  i wrando ar Aled Richards yn cyflwyno, Gari Slaymaker, Steffan Evans o Eglwyswrw, a Fflur Pierce a oedd wedi teithio i lawr o Gaernarfon. Daeth criwiau o Lanllwni, New Inn, Pencader ac o Lanfihangel, a sylw un aelod o’r gynulleidfa ar y diwedd oedd mai “Braf yw cael anghofio am bopeth am noson a chwerthin yn uchel !”

I gyfeiriad hollol wahanol, cynhaliwyd ym Mis Mawrth noson “Trwy’r Tannau” yn rhan o daith genedlaethol y delynores enwog Sioned Webb a’r cyfarwydd Mair Tomos Ifans. Fe glywsom ni wledd o hanesion gwerin o wahanol rannau o Gymru – yn cynnwys Craig Gwrtheyrn yn lleol – trwy gymysgfa swynol o lefaru, canu a sain chwech o delynau ar lwyfan mewn un gynghanedd berffaith. Diolchwn i ni fedru cynnal noson fel hon – a’r un gyntaf yn y gyfres – trwy gynllun “Noson Allan” Cyngor y Celfyddydau a roddodd ryw sicrwydd ariannol i ni.

Yn nesaf yn y gyfres – am 7pm Nos Wener 19eg o Ebrill – bydd y canwr Gareth Bonello o Gaerdydd yn cynnal “Noson Chilo Mas” y “Gentle Good” gyda sesiwn o ganeuon swynol i alluogi pawb i ymlacio ddiwedd wythnos. Mae ganddo lawer o ddilyniant ac mae agos at chwarter y tocynnau wedi gwerthu’n barod. Mae tocynnau ar gael (£8 neu £4 i blant dan 12 oed) gan meinir@cadwyn.com neu o ffonio 01559=384378. Bydd Gareth yn dod atom yn rhan o’i Daith Wanwyn o gwmpas Cymru a Lloegr, a bydd yn Llanfihangel-ar-arth rhwng nosweithiau ym Manceinion a Wrecsam. Un datblygiad arall yw ein bod yn agor drysau’r neuadd am 6.15pm, a’r caffi’n agor am de a choffi a chacen o 6.30pm ymlaen, ac eto’n ystod yr egwyl – fel bod modd ymlacio o’r dechrau.

Mae Gwyl Calan Mai hefyd yn cael ei hadfer yn Neuadd yr Ysgol dros benwythnos Mai5ed/6ed. Am 11.00 Bore Sul 5ed Mai, bydd Coda Ni a’r Eglwys yng Nghymru ‘n cynnal y Gwasanaeth Blynyddol i’r Gymuned. Y pregethwr gwadd fydd Heulwen Davies o Lanelli sydd wedi sefydlu elusen heirs.wales sy’n cefnogi plant mewn Cartrefi Gofal yn Sir Gar a thu hwnt. Dywed mai’r cymhelliant oedd iddi weld plentyn yn symud at Gartre Gofal, a’i heiddo oll mewn Bin Bag ac yn tystio “Roedd yn gwneud i mi deimlo fel rybish fy hun”. Mae’r elusen felly nawr yn darparu bag ac eiddo personol i blant mewn cartrefi gofal er mwyn dangos eu gwerth yng ngolwg Duw. Gyda chefnogaeth ariannol Coda Ni, mae wedi gallu estyn y gwaith trwy’r sir a thu hwnt. Mae croeso mawr i bawb ddod i glywed ei hanes a’i phrofiad.

Ar y Nos Lun 6/5 am 7pm, bydd efallai’r canwr gwerin enwocaf yn y Gymru gyfoes – Gwilym Bowen Rhys – yn “Codi’r To” mewn noson i gloi penwythnos yr Wyl Banc. Mae’r tocynnau (£8 neu £4 i blant hyd 12 oed) eto ar gae gan meinir@cadwyn.com (Ffôn: 01559-384378). MWYNHEWCH Y GWANWYN GYDA NI YN LLANFIHANGEL-AR-ARTH !

Ffred