![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/26/2024/03/Clwb-Cinio-Llandysul-1-640x396.jpg?8u)
Tri o aelodau gwreiddiol y Clwb Cinio Ken Howell, John Lewis a Gwynfor Davies
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/26/2024/03/Swyddogion-cylchoedd-cinioa-308x190.jpg?99)
Swyddogion-cylchoedd-cinio a wahoddwyd i’r dathlu
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/26/2024/03/Swyddogion-presennol-308x190.jpg?11)
Y Pwyllgor presennol
Cynhaliwyd cinio dathlu arbennig iawn ar nos Wener, 15fed o Fawrth i ddathlu hanner canrif ers sefydlu Cylch Cinio Llandysul. Daeth ychydig dros ddeugain i fwynhau’r wledd yng Ngwesty’r Porth a braint oedd cael cwmni tri o aelodau gwreiddiol y Cylch Cinio, sef Ken Howell, John Lewis a Gwynfor Davies. Pleser ar y mwyaf hefyd oedd cael cwmni dau gynrychiolydd o Gylchoedd Cinio Llanbedr Pont Steffan, Castell Newydd Emlyn, Aberteifi a Chaerfyrddin. Cafwyd croeso twym galon gan y Cadeirydd, Cyng. Keith Evans ar ddechrau’r noson ac offrymwyd y gras gan y Parch. Chris Bolton. Siaradwr gwadd y noson oedd Yr Athro Geraint Jenkins, Aberystwyth, a braf oedd cael clywed hanes ei ffrind annwyl Hywel Teifi Edwards, y siaradwr gwadd yng nghyfarfod cyntaf y Cylch Cinio Llandysul yng Ngwesty Blaendyffryn, nôl yn 1973. Talwyd y diolchiadau gan David Thorne ar ddiwedd y noson. Mae’r Cylch Cinio yn cyfarfod ar Nos Lun cyntaf pob mis o Fis Hydref i Fis Ebrill ac mae croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno â ni yn ein cyfarfodydd misol. Os am fwy o wybodaeth am ein cyfarfodydd, cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Martin Griffiths ar 07779688779 neu martindolcoed@btinternet.com