Adnabod Cymeriad: Emyr Llewelyn

gan Wenna Bevan-Jones

Lesley Parker
gan Lesley Parker

Ymddangosodd y cyfweliad gyda Emyr Llewelyn gyntaf yn rhifyn mis Mawrth 2024 Y Garthen.

Ble gawsoch chi eich geni, magu a’ch addysg?

Ces fy ngeni yn ardal Pontgarreg yng nghartref fy mam-gu Esther, ac yna byw am gyfnod yn Llangrannog a mynd i’r ysgol gynradd ym Mhontgarreg; symud i Fwlch-y-groes ac ysgol Tre-groes ac oddi yno i Goed-y-bryn ac ysgol Ramadeg Llandysul. Roeddwn yn ffodus i fyw trwy gyfnod cyffrous ddechrau’r 60au yn y brifysgol yn Aberystwyth a chyffro dyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith.

Beth yw eich atgofion am eich milltir sgwâr a’ch plentyndod?

Cyfnod hapus oedd hwnnw yn byw ar dyddyn Mam-gu yn chwarae ‘cylch a bachyn’ dan ofal fy Mam a Mam-gu ac yna cael syndod pan ddychwelodd fy nhad o’r rhyfel a minnau heb ei weld na’i adnabod ers ymron bum mlynedd.

Ar ôl y Brifysgol beth oedd eich gwaith?

Dechreuais fy ngyrfa ar y brig gyda chwmni ‘Teledu Cymru’ neu WWN; ymddiswyddo ar ôl blwyddyn a chael swydd catalogio (beiciau modur!) yn y Llyfrgell Genedlaethol; cyfnod o naw mis heb waith yn Abertawe, Lerpwl a Gwlad yr Haf ac yna swydd dysgu ail iaith yn Ysgol Joseff Sant, Sandfields;  blynyddoedd yn Athro Bro yng Ngheredigon yn dysgu Cymraeg i blant fewnfudwyr ac yna swydd pennaeth Adran y Gymraeg yn Aberaeron – cyfnod hapus iawn yng nghwmni plant Dyffryn Aeron.

Pwy wnaeth ddylanwadu arnoch?

Dewi Jones, fy athro Saesneg yn Llandysul, dyn ifanc o Ffostrasol a ysbrydolodd genedlaethau o ddisgyblion yr ysgol. Ond y dylanwad mwyaf ar fy mywyd oedd Waldo Williams y bardd a fyddai’n dod i’n tŷ ni yng Nghoed-y-bryn cyn mynd ymlaen i ddosbarth nos yn Nhalgarreg a minnau’n cael mynd i wrando arno.

Eich hoff dri lle a phaham?

Bwlch-y-groes, lle treuliais fy ieuenctid yng nghwmni bechgyn direidus yr ardal.

Cwmtydu a’r cysylltiadau â theulu’r Cilie.

Mynachlog-ddu a Charreg Goffa Waldo i adnewyddu fy ysbryd.

 Eich diddordebau?

Darllen, gwleidyddiaeth ac athroniaeth. A dyddiau fu, mwynhau chwarae criced gyda Thîm Criced Cymraeg y Gwerinwyr!

 Hoff lyfr, cân/cerddoriaeth, dywediad, dihareb, geiriau, llun?

  • Clasur Simone Weil – ‘Yr Angen am Wreiddiau’.
  • Gwrando ar gerddoriaeth Alan Stivell a hud ei delyn.
  • Dywediad fy nghyfaill, y diweddar Ainsleigh Davies, ‘Ymlaen mae Cannan’ ac wrth gwrs geiriau Tydfor ‘Milain yw’r gwynt – mlaen â’r gwaith’.
  • Lluniau Van Gough a’i dosturi mawr at bobl ddioddefus.

Eich atgofion am Dryweryn.

Cofio rhannu llety yn y Coleg gyda’r diweddar Gwilym Tudur a Dyfrig Thomas lle cynllwyniwyd yr ymosodiad symbolaidd ar safle adeiladu’r argae. Cofio mynd i Dryweryn ac i’r ysgol gynradd gydag Aled a Menna Gwyn a phenderfynu bryd hynny i weithredu i geisio achub y cwm. Roedd yr athrawes yn wraig ddiwylliedig a’r plant bach yn annwyl iawn. Yno roedd un disgybl o’r enw ‘Tryweryn’ a meddwl beth fyddai ystyr ei enw ef yn y dyfodol: ai symbol ein brad neu symbol o geisio achub y pentre a’r gymdogaeth?

Dyfodol yr iaith Gymraeg.

Credaf yng ngeiriau Waldo ‘Bydd hi mor ieuanc ag erioed, mor llawn direidi’.

Ydy eich ffydd yn bwysig i chi?

Credaf fod rhaid i bobl gael gwerthoedd a delfrydau sy’n gwneud iddyn nhw anelu at greu byd gwâr a chyfiawn, boed y gwerthoedd hynny yn tarddu o fywyd a geiriau Crist neu beidio.

Oes unrhyw berson neu bersonau, yn fyw neu’n farw y buasech yn hoffi eu cyfarfod / neu wedi eu cyfarfod a phaham?

Buaswn wedi hoffi cyfarfod ag Eluned Morgan, merch Lewis Jones sylfaenydd y Wladfa, y wraig fwyaf mentrus, beiddgar a galluog yn hanes Cymru.

Un arall yw Arundhati Roy, y nofelydd a’r ymgyrchwraig sy’n ymladd dros y difreintiedig yn yr India, a’i gwaith a’i bywyd yn ysbrydoliaeth i bobl led led y byd sy’n ymladd yn erbyn anghyfiawnder a hiliaeth.

Diolch yn fawr Emyr.

1 sylw

Lesley Parker
Lesley Parker

Mae’r pwyllgor Y Garthen yn chwilio am unigolion i ymuno gyda’r tîm bach gweithgar
sy’n cynhyrchu papur bro Dyffryn Teifi, Y Garthen. Rydym yn edrych am bobl sydd â
sgiliau amrywiol, cysylltiadau yn y gymuned, diddordeb yn yr ardal a hoffter o straeon a
newyddion lleol. Am fwy o fanylion, cysylltwch â ygarthen@yahoo.com.

Mae’r sylwadau wedi cau.