Teithiwyd tîm menywod hoci Castell Newydd Emlyn i Gaerdydd i wynebu’r brifysgol. Roedd gan y tîm ifanc sgwad o 10, ond o brofiad y gorffennol nid yw hyn meddwl y byddai’r gêm yn un hawdd.
Dechreuwyd Emlyn gyda’r pas gyntaf o’r canol, ac yn syth wedi ymosod mewn niferoedd yn erbyn amddiffynwyr y tîm cartref. Roedd gan Caerdydd cwpwl o chwaraewyr talentog oedd yn gallu taro’r bel yn galed a chuddiedig a oedd yn taflu gallu’r menywod i ddarllen y gêm, ond ar ôl gwaith caled yn y cylch ymosod, tarodd Mel Williams y bêl i’r postyn ble roedd Sioned Davies yn barod i gael cyffyrddiad ar y bêl a mewn i’r gôl.
Darganfuwyd Enfys, Sioned Davies a oedd wedi cael ei adael yn rhydd, er mwyn dechrau’r rhediad lawr yr asgell dde a lwyddodd i basio’r bêl nol i Enfys â tharodd mewn i gornel chwith y gôl i wneud y sgôr yn 0-2.
Brwydrodd Prifysgol Caerdydd nol yn galed yn erbyn amddiffynwyr Emlyn, ond arhoswyd Ellie Lloyd yn gryf fel arfer er mwyn arbed y bel rhag cyrraedd y cylch. Roedd Ffion Sara, Lowri Hubbard a Jacquie Maycock bob ochr i Lloyd hefyd wedi gweithio’n arbennig drwy daclo a rhyng-gipio’r bel cyn eu rhyddhau i’r canolwyr. Gweithiwyd Rosie Hughes, Flo Plant ac Izzy Yates galed i fwydo’r bel i’r ymosodwyr a gweithio’n ddi-stop i ddilyn ei chwaraewyr er mwyn lleihau ei siawns o ymosod. Cyn yr hanner cyntaf ddod i ben, llwyddodd Prifysgol Caerdydd i sgorio ddwy gôl i’w wneud yn sgôr yn gyfartal.
Roedd Emlyn yn gwybod fod ganddynt hanner anodd o’u blaenau er mwyn cymryd y fuddugiaeth. Perfformiodd Elin Williams safiad ar ôl safiad o wahanol fathau o streiciau, a pharhaodd y triawd amddiffynnol i ledu’r bel i’r asgell. Cafodd Plant sawl rhediad i lawr yr asgell dde drwy ennill tir a cheisio cyrraedd y cylch ymosodol.
Sgoriodd Prifysgol Caerdydd y gôl cyntaf yn yr ail hanner, ond roedd digon o amser yn weddill i fynd nol yn y blaen. Yn fuan iawn, sgoriwyd Mel Williams i wneud yn gyfartal unwaith yn rhagor.
Brwydrodd y blaenwyr Sara Patterson, Emily Barber, Enfys Davies a Sioned Davies yn galed i sgorio gôl neu ennill cornel gosb ar sawl adeg, ond roedd amddiffynnwyr yn taclo’n isel ac yn cael gwared y pêl yn syth. O ganlyniad i gyflymder chwaraewyr caerdydd a pasiau cywir, sgoriwyd eu pedwerydd gôl o’r gêm i fynd yn y blaen.
Atebodd Emlyn nôl yn gryf wrth ennill cornel gosb, llwyddodd Enfys Davies i daro’r bêl heibio’r gôl-geidwad. Roedd hi’n gêm cyffroes iawn. Gydag eiliadau yn weddill o’r gêm, lwyddodd y tîm cartref i gael cornel gosb, gan ei bod yn chwarae olaf o’r gêm roedd chwaraewyr Caerdydd i gyd yn llinellu yn y cylch ymosod. O ganlyniad i hyn, sgoriwyd Caerdydd gôl i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Llongyfarchiadau i Lowri Hubbard am dderbyn chwaraewraig o’r gêm, er roedd hi wedi dod bant o’r cae oherwydd anaf, dangoswyd yn gryf wrth wneud sawl tacl llwyddiannus a phasio’r bêl allan i’r asgell. Yn ogystal, credodd y capteiniaid bod Ffion Sara wedi brwydro’r galed trwy gydol y gêm wrth lleihau’r siawns o sawl phêl i fynd heibio’r gôl-geidwad. Bydd y menywod yn cael penwythnos nesaf bant o ganlyniad i gêm wedi’i aildrefnu. Gêm nesaf fydd 23 o Dachwedd bant yn erbyn Eglwys Newydd.