Llwyddiant i dîm hoci Castell Newydd Emlyn

Ennill 3-0 yn erbyn Y Fenni

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Croesawodd tîm hoci Castell Newydd Emlyn tîm Y Fenni i Grymych ar ddydd Sadwrn 11eg o Chwefror ar gyfer eu ail gêm o’r tymor. Yn dilyn gêm gyfartal a cholli’n ddiweddar, roedd y menywod yn awyddus tu hwnt i ennill y gêm yma er mwyn mynd nôl i frig y gynghrair.

Dechreuodd tîm Y Fenni yn gryf gan ystyried mai 10 chwaraewr oedd ganddynt, ond wnaeth amddiffynwyr cryf Emlyn gan gynnwys Ellie Lloyd, is-gapten Sioned Davies a Ffion Sara Davies ail-ennill y bêl yn gyflym iawn. Drwy weithio drwy’r haenau wrth law asgellwyr Gwawr Evans a Rosie Hughes, roedd y tîm cartref yn llwyddo i gadw’r meddiant ac ymosod yn gryf. O gymorth Mel Williams yng nghanol cae, roedd y bêl wedi gwneud ei ffordd i’r blaenwr Enfys Davies a wnaeth sgorio ei gôl cyntaf o 2023.

O fewn munudau, daweth cyfle eto i Emlyn wrth i Gwawr Evans dderbyn y bêl ar frig y cylch ymosod, a’i phasio i gapten Sara Patterson oedd wedi’i lleoli ger y postyn chwith er mwyn taro’r bêl i gefn y gôl. Roedd yr hyder a momentwm yn amlwg ym moliau menywod Emlyn. Y sgôr hanner amser oedd 2-0, ac roedd y tîm yn awyddus iawn i sgorio fwy o goliau.

Wrth ail-ddechrau’r gêm, cafodd Elen Hill flas arni gan sicrhau nad oedd Y Fenni yn llwyddo i gyrraedd eu cylch ymosodol nhw. Gyda chymorth Efa Jones ac Amity Hayward ar yr asgell, unwaith eto roedd y bêl yn cyrraedd yn daclus i ffyn y blaenwyr er mwyn targedu’r gôl.

Sioned Fflur cafodd y gôl nesaf wrth iddi sgorio wrth y postyn dde yn dilyn pas wrth Gwawr Evans ar frig y cylch ymosodol unwaith eto i Sara Patterson, ac yna i’r sgorwraig.

Erbyn hyn, roedd tîm Y Fenni wedi penderfynu amddiffyn yn gryf gan geisio osgoi fwy o goliau i fynd heibio. Serch hyn, wnaethant lwyddo i ennill cornel byr, a dyma’r unig gyffyrddiad cafodd gôl-geidwad Elin Williams o’r bêl. Gyda chymorth Caryl-Haf Lloyd wnaethant sicrhau nad oedd y bêl yn cyrraedd cefn y rhwyd.

Gydag un cyfle eto, a’r tro yma roedd tair blaenwraig o fewn yr un teulu ar y cae – mam Enfys Davies a’u dwy ferch Sioned Fflur a Lois Davies. Roeddent wedi parhau i herio’r amddiffynwyr hyd nes bod y chwiban olaf yn atseinio. Llwyddiant i’r tîm cartref, a gwneud ei ffordd nôl i frig y gynghrair. Cafodd Elen Hill ei henwebu fel chwaraewr y gêm, a oedd yn llawn haeddiannol.

Hoffai’r tîm ddiolch i Ffitrwydd GC Fitness, Wales Motorsport a Llechi Ronw am noddi’r gêm. Bydd y tîm yn croesawu pedwerydd tím Abertawe i Grymych ddydd Sadwrn nesaf (18fed) yn gobeithio am lwyddiant unwaith eto.