Bu busnesau Llanydsul yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri wedi ei threfnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.
Dyma’r ail dro i’r gystadleuaeth yma gael ei chynnal gan Cered a’r prif nod oedd i greu ychydig o fwrlwm adeg Gŵyl Dewi gan ddod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i ganol trefi Ceredigion.
Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r trefi yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.
Dywedodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni eto ac anodd iawn oedd y dasg o ddewis enillwyr. Mae’n amlwg fod busnesau Ceredigion yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac wedi dehongli’r Gŵyl Dewi mewn ffyrdd creadigol ac amrywiol iawn.”
Cafodd y ffenestri eu beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod. Y buddugwyr yn Llandysul eleni oedd James Jones Son and Francis – Llongyfarchiadau mawr iddynt.