Mae gweithio yng Nghalon Tysul yn lle delfrydol i ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant hamdden / chwaraeon neu os ydych chi’n chwilio am swydd hyblyg, rhan amser. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â sgiliau personol megis bod yn ddibynadwy, hyblyg, gallu gweithio’n annibynnol ac yn dda wrth ymwneud â phobl eraill yn enwedig plant.
Mae angen staff ar gyfer y swyddi achlysurol canlynol:
- Cynorthwyydd y Ganolfan
- Athro Nofio
- Cynorthwyydd Gwersi Nofio
Os nad yw’r cymhwyster angenrheidiol gyda chi eisoes, gallwch chi ymgeisio o hyd a gallwn ni ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Beth sydd angen arnaf i ymgeisio?
- 16 oed +
- Y gallu i siarad a deall Cymraeg*
- Yn fodlon cwblhau cyrsiau hyfforddiant ar gyfer y swydd
- Diddordeb mewn chwaraeon / hamdden / nofio
- Profiad o weithio fel rhan o dîm
- Gallu gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau
- Sgiliau personol pwysig: dibynadwy, hyblyg, gallu gweithio’n annibynnol, sgiliau da o ran ymwneud â phobl eraill
*Os nad ydych yn rhugl / hyderus yn y Gymraeg eto, mae’n bosib bydd Calon Tysul yn gallu eich helpu cyrraedd y safon ddisgwyliedig gyda hyfforddiant pwrpasol.
Be’ nesa’?
Os wyt ti am drafod y swyddi, cysyllta gyda ni i drafod – Matt Adams (matt@calontysul.cymru / 01559-362548)
Ymgeisiwch ar-lein fan hyn