Castell Newydd Emlyn yn erbyn trydydd tîm Penarth

Colli un y funudau olaf o’r gêm

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Teithiodd tîm hoci Castell Newydd Emlyn i Benarth ar gyfer eu trydedd gêm y tymor yma yn dilyn chwarae’r tîm adref ac mewn gem gwpan. Gyda’r ddau dîm yn ennill un gêm yr un, roedd y frwydr am lwyddiant yn amlwg yn y gêm hon.

Roedd yr haul yn gwenu yn Ysgol Stanwell dydd Sadwrn gyda’r amodau bron yn berffaith ar gyfer gem o hoci. Dechreuwyd Emlyn yn gryf gyda’r canolwyr yn ail-ennill y meddiant yn gyflym diolch i Mel Williams, Gwawr Evans a Heledd-Mai Lloyd. Er, nid oedd yn rhwydd fynd drwyddo amddiffynwyr Penarth gan roedd y bel nol ’mlaen rhwng y ddau dîm drwy gydol yr hanner gyntaf.

Pan roedd y bel yn cael ei basio i asgellwr Sioned Davies, roedd hi’n defnyddio ei chyflymder yn dda gan symudo gwmpas ei amddiffynnwr ac yn darganfod ei hun yn y cylch ymosodol gyda’i mam Enfys Davies. Roedd Enfys yn gyflym i allu ennill cornel gosb drwy daro’r bel yn erbyn troed Penarth. Gan ddilyn geiriau’r hyfforddwraig Sarah Braizier, roedd Emlyn yn gwybod y strwythur gan roi Williams ar frig y cylch i daro streic syth – a wnaeth rhoi mantais i Emlyn gan fod 1-0 i fyny.

Yn sydyn ar ôl hyn, wnaeth arwain at yr ail gol yn dilyn pasiau pert Sara Patterson ac Enfys Davies drwy ganol y cae o gwmpas yr amddiffynnwr a’r gôl-geidwad a Davies yn taro’r bel i gefn y gol. Arhoswyd y sgôr yn 2-0 i Gastell Newydd Emlyn hyd at hanner amser.

Roedd Emlyn yn gwybod fod ganddynt waith caled i gynnal y llwyddiant yma yn ystod yr ail hanner, ond roedd Penarth wedi ymosod yn gryf ac yn gyflym gan wneud amddiffynwyr Ellie Lloyd, Sioned Davies, Caryl-Haf Lloyd, Lowri Hubbard ac Elen Hill i weithio’n galed iawn er mwyn osgoi’r saethiadau at gôl-geidwad Angharad Jenkins. Roedd gan Benarth cwpwl o chwaraewyr ifanc a talentog a oedd wedi llwyddo i roi’r bel yng nghornel y gôl – un o’r goliau fwyaf anodd i safio.

Roedd Emlyn wedi parhau i ymosod yn gryf diolch i frwdfrydedd Rosie Hughes ac Emma Braizier, unwaith eto yn galluogi asgellwyr Patterson a Sioned Davies i gyrraedd y cylch ymosodol a oedd wedi ceisio eu gorau i ennill cornel gosb ond heb lwyddo.

Gyda’r chwarae yn mynd o un pen y cae i’r llall, roedd menywod Emlyn yn dechrau blino, ac o bosib dyma’r rheswm roedd Penarth wedi ennill cornel gosb. Unwaith eto, gan ddefnyddio ei sgiliau i osgoi amddiffynwyr Emlyn, wnaethant lwyddo i daro pêl arall heibio’r tîm. 2 gol yr un gyda deg munud yn weddill o’r gêm.

Parhaodd Emlyn i gynnal y meddiant, ond yn amlwg nid oedd hyn yn ddigon i stopio Penarth rhag sgorio un arall. Yr ail gêm yn olynol i Emlyn fod dau gol i fyny ac yna ddim yn cynnal y llwyddiant yn ystod yr ail hanner. Roedd chwaraewraig y gêm wedi cael ei roi i Sioned Fflur Davies am ei dyfalbarhad a sgiliau ymosod, a oedd yn llawn haeddiannol.