Yn ddiweddar, bu deuddeg o ddisgyblion o ddosbarth ‘Busnes’ blwyddyn deg Ysgol Bro Teifi, yn cystadlu mewn cystadleuaeth ‘Young Enterprise’. Cafodd y gystadleuaeth ei chynnnal ar Ddydd Iau y 30ain o Fawrth yng Ngholeg Sir Gâr gyda thair ysgol yn cystadlu. Y nod oedd i ddechrau busnes newydd, yn ogystal â llunio cynllun busnes, logo a slogan ac yn bennaf rhoi’r cyfle i’r disgyblion fagu hyder a’r gallu i siarad yn gyhoeddus.
Enw busnes criw Ysgol Bro Teifi yw ‘Dan Draed’. Mae’r busnes yn ailgylchu hen bedolau ceffylau a’u defnyddio i greu nwyddau newydd, er enghraifft daliwr poteli, cnociwr drws a llawer mwy! Dyma esiampl dda o uwchgylchu. Yn ôl Mari Thomas, Prif Weithredwraig busnes Dan Draed, mae’r gystadleuaeth wedi helpu i ddatblygu ei hyder i siarad yn gyhoeddus.
“Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn dda i wella fy sgiliau siarad o flaen cynulleidfa a bydd y sgil yma o fudd i mi yn y dyfodol.”
Wedi’r holl waith caled o gynllunio, cynhyrchu, ysgrifennu a mynychu llu o gyfarodydd roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant mawr i’r busnes. Ar y dydd fe ddaeth Dan Draed yn fuddugol mewn sawl categori. Daeth Dan Draed i’r brig am y Cyflwyniad Gorau, Rheolaeth Ariannol Gorau, Y Mwyaf Priodol ar Gyfer Allforio, Marchnata Gorau ac ar ddiwedd y dydd Dan Draed ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth.
Mi fydd Dan Draed yn mynd drwodd i gystadlu yn rownd derfynol Cymru a hynny ar ddiwedd mis Mai. Felly pob lwc i’r criw!