Dros y penwythnos bu rhai disgyblion Ysgol Bro Teifi yn dawnsio ac yn cynorthwyo mewn digwyddiad hanesyddol yn Llangrannog. Roedd Sarah Jane Rees, a adnabyddir hefyd wrth yr enw barddol “Crangowen”, yn athrawes Gymraeg, yn fardd, yn olygydd, yn brif forwr ac yn ymgyrchydd dirwest. Yn ddynes â sawl dawn a diddordeb yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd môr o liw a baneri i gofio amdani ac i ddadorchuddio cerflun newydd Cranogwen yn Llangrannog dros y penwythnos.
Yn dilyn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd yn y gystadleuaeth Dawns Werin Bl.10 ac o dan 19 oed, cafodd y 6 dawnsiwr y cyfle i gael gweithdy gyda Elan a Cêt o grŵp dawnsio Qwerin ac yna perfformio ar y cyd gyda Elan, Cêt a Meilyr drwy berfformio y ddawns o’r Eisteddfod. Ymunodd rhai o’r dawnswyr yn y parêd i lawr o Wersyll yr Urdd i lawr i’r cerflun i ddadorchuddio’r cerflun hardd.