Ras Fach y Wiber 2023

Wedi ei gynnal gan Menter Gorllewin Sir Gâr

gan Roisin O'Toole

Eleni, cynhaliwyd ras newydd sef Ras Fach y Wiber o amgylch caeau Dôl Wiber yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn gan Menter Gorllewin Sir Gâr. Yn draddodiadol, Ras Bryndioddef oedd yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos hon, ond oherwydd cyfyngiadau iechyd a diogelwch newydd, bu’n rhaid addasu’r ras i leoliad newydd.

Cafwyd noson llwyddiannus iawn gyda 3 prif ras sef un ras 1km, un 2.5km ac un arall 5km. Enillwyr y rasys oedd; Ras 1k Merch: Alys Davies, Bachgen: Mostyn Jones; Ras 2.5k Merch: Beca Evans, Bachgen: Llifon Evans; Ras 5k Merch: Jo Collins, Bachgen: Jonathan Price.
Dyma’r tro cyntaf i’r ras gael ei cynnal yn lle’r un draddodiadol felly braf oedd cael tua 80 o redwyr i gyd yn cystadlu rhwng y 3 ras.

Darparwyd dŵr a bananas gan siop Co-op Castell Newydd Emlyn, ac ysgytlaeth a llaeth gan gwmni lleol, Llaeth Gorwel i’r rhedwyr i gyd ar ddiwedd y ras, felly diolchwn i’r busnesau am y rhoddion hael yma. Diolchwn hefyd i gaeau Dôl Wiber Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn am ddefnyddio’r caeau ac am y croeso, ac am y nawdd gan gronfa Dr Dewi Davies i allu cynnal y noson. Diolch i’r stiwardiaid am eu hamser i wirfoddoli, rydym ni fel Menter yn gwerthfawrogi bob cefnogaeth. Ymlaen i flwyddyn nesa’!

Cofiwch, mae Gŵyl newydd sbon yn dod i Gastell Newydd Emlyn dydd Sadwrn yma rhwng 10-1pm ym Mharc y dref, gan gynnwys mabolgampau a gwisg ffansi i’r plant, stondinau gan fudiadau lleol megis clybiau Ffermwyr ifanc gyda gig Llew Davies yn nhafarn y Sgwâr am 8pm i orffen y noson – gwelir mwy o wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol Menter Gorllewin Sir Gâr.