Llwyddiant Ysgol Penboyr

Gwobr Ysgolion Iach

gan Meiris Rees

Yr hyn yr oeddem yn ei anelu ato eleni oedd mynd am y 6ed ddeilen a braf yw cyhoeddi, ein bod fel Ysgol, wedi bod yn llwyddiannus.  Canolbwyntiwyd ar ddau beth penodol sef Defnyddio a Cham-ddefnyddio Sylweddau a Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol.

Mewn seremoni wobrwyo yn yr ysgol, cyflwynodd Mrs. Shân Thomas y ddeilen i gyd-lynydd Ysgolion Iach Ysgol Penboyr, Mrs. Carys Davies.  Braint oedd derbyn y wobr gan taw dim ond 7 ysgol yn Sir Gâr sydd wedi cyrraedd y cam yma.  Tipyn o gamp, yn wir! Diolchodd y Pennaeth, Dr. Carol James, i Mrs. Davies, staff a disgyblion am yr holl waith, er mwyn sicrhau llwyddiant.