Blog byw o Eisteddfod Uwchradd Ysgol Bro Teifi

Emlyn, Teifi a Tysul yn barod am y cystadlu!

gan Alwen Thomas

Bydd canlyniadau yr Eisteddfod Ddawns yn ymddangos fan hyn ddydd Mercher (12 Gorffennaf) a chynhelir gweddill yr Eisteddfod prynhawn ddydd Iau (13 Gorffennaf) a thrwy ddydd Gwener (14 Gorffennaf).

22:08

Côr y 3 thŷ 😍 

17:18

Llongyfarchiadau MAWR iawn i’n disgyblion i gyd sydd wedi bod yn rhan o holl fwrlwm yr Eisteddfod, gyda DIOLCH arbennig iawn i ddisgyblion y Chweched am eu brwdfrydedd anhygoel wrth arwain eu tai. Rydym fel ysgol yn falch iawn, iawn ohonoch.

Diolch hefyd i’r staff am eu gwaith hwythau tuag at lwyddiant yr Eisteddfod.

Bydd mwy o luniau a chlipiau fideo yn ymddangos fan hyn yn y dyddiau nesaf. Ymddiheuriadau am yr oedi – dyw’r dechnoleg ddim bob amser yn fodlon cyd-weithio! 

17:14

Canlyniad terfynol yr Eisteddfod:

1af – Teifi

2il – Tysul

3ydd – Emlyn

17:12

Rhan o berfformiad Côr Tysul.

17:10

Rhan o berfformiad Côr Emlyn.  

15:32

Gwenith

Y beirniad cerdd, Gwenith Evans, yn arwain côr y 3 tý.

15:29

Canlyniad y Côr:

1af – Tysul

2il – Emlyn

3ydd – Teifi

15:06

Côr Emlyn.

15:00

Côr Tysul.

14:49

Rhan o berfformiad Côr Teifi.