Blog byw o Eisteddfod Uwchradd Ysgol Bro Teifi

Emlyn, Teifi a Tysul yn barod am y cystadlu!

gan Alwen Thomas

Bydd canlyniadau yr Eisteddfod Ddawns yn ymddangos fan hyn ddydd Mercher (12 Gorffennaf) a chynhelir gweddill yr Eisteddfod prynhawn ddydd Iau (13 Gorffennaf) a thrwy ddydd Gwener (14 Gorffennaf).

14:18

Yn ail yng  nghystadleuaeth y Goron Hŷn mae Lili Payne.

Yn drydydd mae Mari-Olwen  Mason-Evans.

14:07

7DAE071B-6125-4D1D-97F3

Enillydd Coron Hŷn YBT 2023 yw Mali Macdonald.

Gail MacDonald
Gail MacDonald

Llongyfarchiadau masif Mali! Mor browd.

Lynsey Thomas
Lynsey Thomas

Llongyfarchiadau mawr i ti, Mali. Top job 👏👏👏

Mae’r sylwadau wedi cau.

14:02

Yn ail yn y gystadleuaeth Coron Iau mae Loren Jones.

Yn drydydd mae Magw Fflur Thomas.

Lynsey Thomas
Lynsey Thomas

Da iawn ti, Magw fach. Prowd iawn 👏👏👏

Mae’r sylwadau wedi cau.

14:00

7B15D465-B63F-45C6-A53A

Enillydd Coron Iau YBT 2023 yn Sioned Elias-Davies.

13:54

Mae Seremoni y Coroni newydd ddechrau.

13:52

Mae’r gynulleidfa’n barod  ar gyfer cystadlu’r prynhawn.

13:03

Rhan o berfformiad buddugol Unawd Offerynnol Hŷn – Alwena Owen

13:02

Rhan o berfformiad buddugol Teifi – Dawnsio Disgo Iau

12:57

Canlyniad y Limrigau Cymraeg:

1af – Jano Evans:

Un bore wrth godi o’r gwely 

Es mas ar fy  union i’r beudy,

I chwilio fy sbecs 

Ynghanol y stecs.

Nid jobyn bach  rhwydd yn amaethu.

2il – Lowri Jones:

Daeth pawb yn un tyrfa i’r Steddfod

I ganfod a fydde teilyngdod

yn y Gadair a’r Goron,

i’r côr a’r partïon.

A dathlu a wna ein Cymreictod.

Cydradd 3ydd – Alaw Evans:

Daeth pawb yn un tyrfa i’r Steddfod 

gan obeithio am gael teilyngdod.

Aeth Mami yn grac,

Dim gwobr i Jac!

Aeth draw at y beirniad a ‘mosod.

Cydradd 3ydd – Lois a Gwennan:

Daeth pawb yn yn tyrfa i’r Steddfod

A’r twrw oedd  yn creu cryndod.

Tysul yn ffoi,

Emlyn o’u coi,

A Teifi fel haid o fwncïod!

12:46

Rhan o berfformiad buddugol Gwennan Owen – Llefaru Unigol Iau/Monolog