Gŵyl Canol Dre 2023

Menter Gorllewin Sir Gâr

gan Roisin O'Toole

Ar yr 8fed o Orffennaf, cynhaliwyd Gŵyl Canol Dre ym Mharc Myrddin yng Nghaerfyrddin o 11yb tan 8yh. Gyda lwc, arhosodd y tywydd yn sych a bu amrywiaeth o weithdai trwy gydol y dydd mewn amryw o bebyll oedd ar y safle. Bu’r 40 o weithdai yma yn cynnwys gweithgareddau megis sesiwn stori, barddoni, drama, gemau fideo, adweitheg a disgo distaw.

Bu stondinau gyda rhywbeth ar gyfer dant pawb, megis stondinau dillad, gemwaith a llyfrau di-ri. Roedd yr ardal fwyd yn llawn o ddewis gwahanol ar gyfer anghenion pawb. Roedd ardaloedd y mudiadau a’r busnesau yn llawn bwrlwm drwy’r dydd, ac roedd atyniadau fel yr ardal chwaraeon hefyd yn denu’r cyhoedd.

Bu’r llwyfan berfformio a’r brif lwyfan yn llawn bwrlwm drwy’r dydd a nos gyda’r perfformiadau amrywiol. Bu dros pymtheg o ysgolion Caerfyrddin a’r cyffuniau’n perfformio, a sioeau Siani Sionc a Mewn Cymeriad yn diddanu’r gynulleidfa ifanc.

Ar y brif lwyfan bu bandiau a grwpiau lleol megis Bald Patch Pegi a Dros Dro yn perfformio. Gorffenwyd y noson gyda pherfformiadau gan Gwilym, Eden ac Yws Gwynedd. Yn ôl ymateb y gynulleidfa, roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau’r diwrnod.

Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn dros ben gyda 4,500 o bobl yn mynychu drwy gydol y digwyddiad. Hoffai Menter Gorllewin Sir Gâr ddiolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr bu’n ein cynorthwyo yng Ngwyl Canol Dre eleni. Os oes diddordeb gydag unrhywun i wirfoddoli gyda ni yn ein digwyddiadau sydd i ddod, cysylltwch â ymholiad@mgsg.cymru

Cyfryngau Cymdeithasol:

Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.