Yn ddiweddar, bu disgyblion blwyddyn un ar ddeg Ysgol Bro Teifi wrthi yn cwblhau’r her Arian Gwobr Dug Caeredin. Wedi wythnosau o wirfoddoli, arddangos sgiliau arbennig a chwblhau gweithgareddau corfforol fe fentron nhw allan ar alldaith gan ddechrau yng nghysgod mynyddoedd y Preseli. Cerddon nhw filltiroedd dros y mynyddoedd cyn gorffen yn Nhrefdraeth. Roedd y digyblion allan ar yr alldaith am ddwy nosweth a thri diwrnod. I gwblhau’r alldaith, y nod oedd i gerdded gan gario bag trwm o oddeutu 14kg ar eu cefnau a oedd yn cynnwys pethau angenrheidiol fel pabell, dillad a bwyd. Roedd hefyd rhaid iddyn nhw gerdded a dilyn map yn ogystal â chodi’r babell a pharatoi bwyd. Heb os, roedd y tridiau yn dri diwrnod heriol yng nghanol ambell gawod o law ond fe wnaeth yr holl ddisgblion elwa a chreu atgofion oes ac wrth gwrs llwyddo I ennill Gwobr Arian Dug Caeredin.