Tymor hoci newydd wedi dechrau!

Merched Emlyn yn cael sgôr cyfartal yn erbyn trydydd tîm Penarth

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Gyda’r tymor hoci wedi ail-ddechrau o’r diwedd, roedd merched tîm hoci Castell Newydd Emlyn ar yr M4 lawr i Benarth i chwarae yn erbyn ei trydydd tîm. Yn dilyn chwarae y tîm yma tair gwaith tymor diwethaf, roedd Emlyn yn gwybod pa mor anodd fyddai’r gêm agoriadol yma, ac roeddent yn ysu am lwyddiant.

Dominyddwyd mwyafrif o’r hanner gyntaf gan Emlyn gan ddechrau gydag adennill y meddiant o bas cyntaf Penarth. Y capten Sara Patterson wnaeth y rhyng-gipiad ac yna ceisio pasio’r bel i’r hanner cylch ond heb lwyddo i ddarganfod yr ymosodwyr eraill.

Parhaodd y chwarae yn nwylo Castell Newydd Emlyn i lawr yr asgell dde, gyda driblo cryf a chyflym Rosie Hughes yn cysylltu’n gyson gyda’r ymosodwr ifanc Sioned Fflur Davies. Dangosodd Sioned ei sgiliau ymosod dro ar ôl tro drwy basio’i hamddiffynnwr ac ennill sawl cornel gosb. Yn dilyn ymarfer gwahanol fathau o batrymau corneli cosb, oedd yn cynnwys Mel Williams ac Enfys Davies, roedd y gôl-geidwad yn llwyddo i arbed pob un.

Llwyddodd y tîm cartref i dorri trwy linell ganol Emlyn ar gwpwl o adegau, a oedd yn galluogi’r rhes amddiffynnol is-gapten Sioned Davies, Ellie Lloyd, Caryl-Haf Lloyd a’r gôl geidwad Angharad Jenkins i serennu. Ar ôl brwydro hyd at hanner amser, ni lwyddodd Emlyn i sgorio, felly’r sgôr hanner amser oedd 0-0.

Unwaith eto, Emlyn oedd yn dominyddu’r chwarae ac yn ceisio’n ddiflino i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd. Tro hyn, daeth adegau o chwarae i lawr yr asgell chwith o waith Elen Hill yn y canol, Carys Owen ac Izzy Stedman. Eto, yn llwyddo i ennill corneli cosb a phasiau rhydd tu allan i’r hanner cylch ond eu llinell amddiffynnol nhw yn llwyddo i arbed y gôl rhag mynd mewn.

Gyda thoriad cyflym o’r tîm cartref, gan roi pwysau ar Emlyn i redeg nôl, llwyddodd Penarth i sgorio gan eu rhoi ar y blaen. Erbyn hyn roedd tân ym moliau Castell Newydd Emlyn ac o fewn munudau llwyddodd y chwarae i ddod o Ffion Davies yn y cefn, i Hughes ac yna Sioned Fflur gan basio i’w mam, Davies ar dop y cylch a tharo’r bêl i gefn y gôl.

Roedd Emlyn yn dominyddu’r chwarae hyd at ddiwedd y gêm ond ni lwyddwyd i sgorio un arall felly roedd rhaid i’r sgôr gyfartal fod yn ddigon penwythnos yma. Penodwyd Sioned Fflur Davies yn chwaraewr y gêm gan y gwrthwynebwyr. Dechreuad safonol i’r tymor, gan obeithio am 3 phwynt penwythnos nesaf yn erbyn trydydd tîm Prifysgol Caerdydd – ac ie, i lawr yr M4 unwaith eto.