Bore Coffi Macmillan

Codi arian at achos da yn Ysgol Bro Teifi

gan mallt ladd-lewis
Poster gan Alaw Silvestri Jones

Colbo am gacennau

Yn sicr, bu Bore Coffi Macmillan Ysgol Bro Teifi yn llwyddiant enfawr. Ni fyddai wedi bod yn llwyddiant heb gyd-weithrediad y chweched a brwdfrydedd pob un a ddaeth i gefnogi, felly rhaid i mi ddiolch i bawb a gymerodd rhan yn y digwyddiad.

Cynhaliwyd y Bore Coffi ar waelod Bloc D yr ysgol ac yn yr ystafell goginio. Pleser oedd gweld nifer o ddisgyblion ac athrawon yr ysgol yn mwynhau’r holl gacennau a melysion blasus a baratowyd er mwyn sicrhau cyfanswm teilwng o arian i gefnogi’r elusen haeddiannol. Braf yw cyhoeddi codwyd £542.96 rhwng yr holl gyfraniadau a’r raffl!

Diolch i bawb oedd ynghlwm â’r digwyddiad a diolch am y gefnogaeth hael.