Tri gôl a thri pwynt i dîm hoci Emlyn

Llwyddiant yn erbyn trydydd tîm Prifysgol Caerdydd

Sara Patterson
gan Sara Patterson
IMG_3493

Teithiwyd tîm hoci Castell Newydd Emlyn i Gaerdydd unwaith eto er mwyn herio trydydd tîm Prifysgol Caerdydd dros y penwythnos. Gyda’r haul yn serenni, roedd yr amodau chwarae ychydig yn dwymach na beth ddylai fod ar ddechrau mis Hydref, ond ni effeithiwyd hyn ar chwarae’r menywod.

Dechreuwyd yn gryf drwy lwyddo i gynnal y meddiant am y deng munud gyntaf gan roi pwysau ar amddiffynwyr y tîm cartref. Roedd y canolwyr Mel Williams ac Elen Hill yn llwyddo i gadw’r chwarae yn yr hanner ymosodol gan gysylltu’n wych gyda’r asgellwyr Rosie Hughes a Carys Owen.

Llwyddwyd i ennill cornel gosb o gamgymeriad y tîm cartref. Gyda’r capten Sara Patterson yn pasio i frig y cylch at Williams, derbyniwyd Patterson y bêl nôl er mwyn gallu ei daro i gefn y gôl, 0-1.

Ar ôl brwydro hir gan tîm y Brifysgol gan herio’r amddiffynwyr, is-gapten Sioned Davies, Ellie Lloyd a Caryl-Haf Lloyd fe lwyddwyd i roi’r sgôr yn gyfartal. Gydag ychydig o funudau ar ôl cyn hanner amser, pasiodd Hill y bêl i’r gwagle ar gyfer Heledd-Mai Lloyd i’w redeg tuag ato. Llwyddodd Heledd-Mai i groesi’r bêl nôl i’r hanner cylch, yn yr aer, a oedd wedi darganfod ffon y capten wrth y postyn cefn i’w daro i mewn, 1-2. Bydd y gôl yma i fyny gyda’r goreuon am y tymor gobeithio!

Gydag Emlyn yn chwilio am y tri phwynt, roeddent yn benderfynol i barhau ar y blaen, er roedd llawer yn fwy anodd gan fod y gwrthwynebwyr eisiau’r tri phwynt hefyd. Perfformiwyd arbediadau ffantastig gan y gôl-geidwad Elin Williams wrth i’r tîm cartref lwyddo i ennill dwy gornel gosb, ac o gymorth yr amddiffynwyr llwyddwyd i gysylltu gyda’r asgellwyr Amy Heighton ac Efa Jones.

Roedd pawb yn gweithio mor galed yn y gwres gan gynnwys y chwaraewraig newydd Izzy Yates a oedd yn darganfod ei thraed yn y rhes flaen a chysylltu’n wych gyda Heledd-Mai. Gyda chwarter awr i fynd, roedd amser am gôl arall i’r capten. Pasiwyd y bel gan Heledd-Mai ymlaen i’r capten oedd un-am-un gyda’r gôl-geidwad hyd nes i’r gôl-geidwad fynd ar y llawr a oedd yn galluogi Patterson i godi’r bel drosti, gan daro’r postyn ac i mewn i’r gôl. Llwyddodd Castell Newydd Emlyn i gadw’r sgôr yn 1-3 hyd at ddiwedd y gêm, a oedd yn llwyddiant holl haeddiannol gan y tîm cyfan.

Y capten Sara Patterson wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm gan y tîm cartref. Dydd Sadwrn nesaf fydd y tîm yn chwarae adref yn Crymych yn erbyn Rhondda am 11:00.